Pont Trefynwy
Pont Trefynwy (Saesneg: Monnow Bridge) yw'r unig bont yng Nghymru sydd â thŵr amddiffynol, milwrol; fe'i codwyd oddeutu 1272 ac mae'r bont yng nghanol tref Trefynwy, Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr.
Cyn ei chodi oddeutu 1272 credir fod yma bont bren ac yn 1988 cafwyd tystiolaeth archaeolegol o hynny.[1] Dengys dyddio carbon i'r coed a ddefnyddiwyd yn dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1123 a 1169.
Tywodfaen goch yw ei gwneuthuriad gyda thri bwa. Mae'n debygol mai ar ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif; hynny yw ar ôl codi'r bont. Mae olion porth cullis i'w gweld, er bod y gat ei hyn wedi hen ddiflannu. Yn 1297 rhoddwyd nawdd ariannol i'r dref gan Edward I er mwyn codi waliau amddiffynnol i amddiffyn y dref rhag ymosodiadau gan y Cymry. Arferwyd codi toll ar y bobl a ddaethai dros y bont, e.e. ffermwyr a thyddynwyr yn ymweld â'r farchnad.
Galeri[golygu]
-
Ysgythriad o'r bont gan Thomas Hearne, 1780au
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Rowlands, M.L.J., Monnow Bridge and Gate, Cyhoeddwyd gan Alan Sutton Publishing Ltd., 1994, ail-gyhoeddwyd ar wefan "Castles of Wales". Adalwyd 28 Rhagfyr 2011