Stags Head

Oddi ar Wicipedia
Stags Head
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.212754°N 3.990952°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN640590 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentrefan yng nghymuned Llangeitho, Ceredigion, yw Stags Head.[1] Saif ar groesffordd y B4343 rhwng Llangeitho a a Thregaron lle mae ffordd Rufeinig Sarn Helen yn croesi'r ffordd.

Mae'n debyg bod y pentrefan wedi cymryd ei enw o hen dafarn yn y lleoliad hwn o'r enw "Stags Head". Daw'r cyfeiriad cynharaf at y dafarn o 1822 ac mae’n debyg cafodd y dafarn ei defnyddio gan borthmyn.[2]

Mae'r pentrefan wedi'i nodi ar Fap Degwm y 1840au a mapiau cynnar yr Arolwg Ordnans.[3] Nid oes cofnod o enw Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 18 Mawrth 2023
  2. "Englyn in praise of the Stag's Head / Englyn moliant i'r Stag's Head (Newspaper) - A Pint of History, Please". pint-of-history.wales. Cyrchwyd 8 Mawrth 2023.
  3. "Welsh Tithe Maps - Browse". places.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2023.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU