Sigrid Damm

Oddi ar Wicipedia
Sigrid Damm
Ganwyd7 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata
Gotha Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethysgolhaig llenyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lion-Feuchtwanger, Gwobr lenyddol Thüringer Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Sigrid Damm (ganwyd 7 Rhagfyr 1940) sy'n ysgolhaig llenyddiaeth Almaeneg ac yn awdur nifer o ysgrifau ar y "Weimar Viergestirn" Wieland, Goethe, Herder a Schiller.

Fe'i ganed yn Gotha, Thuringia yn yr Almaen ar 7 Rhagfyr 1940.[1][2][3][4]

Yn Gotha hefyd y'i magwyd ac addysgwyd hi yn yr Arnoldischule, gan raddio yn 1959. O 1959 i 1965 astudiodd lenyddiaeth a hanes Almaeneg ym Mhrifysgol Jena, neu'r Friedrich-Schiller-Universität Jena. Wedi hynny, bu'n gweithio fel darlithydd prifysgol yn Jena a Berlin. Yn 1970 enillodd ei doethuriaeth mewn athroniaeth a gweithiodd fel awdur yn Verlag Volk und Wissen a gyhoeddwyd dan y teitl "Hanes Llenyddiaeth yr Almaen" (Geschichte der deutschen Literatur).

Ers 1978 mae hi'n byw fel awdur llawrydd yn Berlin. Ym 1993 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Caeredin a Glasgow, ac yn 1994 ym Mhrifysgol Hamburg.[5]

Mae Sigrid Damm yn awdur gweithiau ar bobl llenyddiaeth glasurol y Weimar, yn bennaf. Ysgrifennai mewn cymysgedd o fywgraffiadau a ffuglen ar gyfaill plentyndod Goethe, sef Jakob Michael Reinhold Lenz a gwraig Goethe, Christiane von Goethe. Daeth hyn ag enwogrwydd mawr iddi.

Mae Sigrid Damm yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac Academi Gwyddorau a Llenyddiaeth Mainz. Ar 14 Rhagfyr 2010, hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn dinasyddiaeth anrhydeddus ei man geni, Gotha, a roddwyd iddi gan gyngor y ddinas.[6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lion-Feuchtwanger (1987), Gwobr lenyddol Thüringer (2005) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Sigrid Damm". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  5. Teitl y gwaith: Sigrid Damm – Lesung; cyhoeddwr: Institut Pierre Werner
  6. Mitgliedseintrag von Sigrid Damm bei der Akademie der Wissenschaften und der Literatur Mainz, abgerufen am 11.10.17