Shelley Rees-Owen

Oddi ar Wicipedia
Shelley Rees-Owen
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores a gwleidydd Cymreig yw Shelley Rees-Owen (ganwyd 30 Ionawr 1974)[1] ddaeth yn adnabyddus am chwarae y cymeriad Stacey Jones yn y gyfres sebon Pobol y Cwm.[2]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci, ac Ysgol Gyfun Rhydfelen a wedyn Ysgol Gyfun Llanhari ar gyfer y chweched dosbarth. Cafodd gyfle i actio yn yr ysgol a penderfynodd ei fod am gael gyrfa yn y maes.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1993, ymunodd a chast Pobol y Cwm gan chwarae y ferch ysgol Stacey Jones. Cymerodd hoe o'r gwaith yn 1996 i weithio ar bethau eraill, gan wneud ffilm yn Rwsia, Ffrainc a chafodd gyfle i deithio Prydain ac Awstralia mewn drama lwyfan. Yn 1999 roedd cynhyrchydd y gyfres yn awyddus i Stacey ddychwelyd i Gwmderi. Erbyn hyn roedd Shelley wedi cael ei merch Lowri a felly yn hapus i ddychwelyd i'r sebon.

Bu hefyd yn chwarae rhan Jo Pugh yn y gyfres ddrama 2 Dy a Ni,[3] lle chafodd enwebiad am wobr BAFTA Cymru.[4]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Shelley yn aelod gweithgar o Blaid Cymru ac fe'i hetholwyd yn gynghorydd dros ward Pentre ar gyngor Rhondda Cynon Taf yn Mai 2012. Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru dros y Rhondda yn etholiad San Steffan, 2015.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Portread y Mis - Shelley Rees. BBC Lleol. Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
  2. "2 Dy a Ni". WalesOnline. 2009-04-17. Cyrchwyd 2010-01-20.
  3. Powell, David (2008-09-08).
  4. "Bafta nominations for Welsh talent".
  5.  Mae AS Plaid Cymru dros y Rhondda yn “angenrheidiol” medd ymgeisydd. Plaid Cymru (19 Mehefin 2016).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]