Sgwrs Defnyddiwr:Osps7

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, Osps7! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,422 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 15:00, 15 Medi 2021 (UTC)[ateb]

Grwpiau defnyddwyr=[golygu cod]

  • bot
  • Gweinyddwr*
  • interface administrator (Saesneg)
  • Biwrocrat*
  • gwneuthurwr cyfrifon
  • ymhlith y rhai sydd wedi eithrio rhag bod eu cyfeiriadau IP yn cael eu blocio
  • defnyddiwr wedi ei gadarnhau

Ydy'r hyn yn ateb eich cwestiwn? Deb (sgwrs) 13:40, 3 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Diolch @Deb
Sut mae gofyn am awdurdodiad defnyddiwr wedi ei gadarnhau ? Osps7 (sgwrs) 13:43, 3 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]
Mae'n rhaid i chi aros nes eich bod wedi gwneud digon o olygiadau da. @Llywelyn2000: Deb (sgwrs) 14:16, 3 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Diolch am eich cyfraniadau[golygu cod]

Diolch am eich cyfraniadau, ond cyn i chi wneud llawer mwy, gwnewch yn siŵr (1) nad yw'r erthygl yn bodoli eisoes o dan enw arall (Iaith hynafol yr Aifft); (2) eich bod yn defnyddio'r sillafiadau sydd eisoes wedi'u hen sefydlu yma: efallai bod yn well gennych chi'r sillafiad "Palestina" yn hytrach na "Palesteina", ond mae'n creu dryswch os gwnewch hynny.

Bydd o gymorth ichi os meddyliwch chi am y categorïau (y pethau sydd ar waelod yr erthyglau) sydd eisoes yn bodoli, a lle gallai eich erthygl newydd ffitio i mewn i'r rheini. Byddech chi wedi gweld bod gennym eisoes grŵp o erthyglau am Addysg ym Mhalesteina lle dylai eich erthygl newydd fod wedi mynd. Ond daliwch ati! --Craigysgafn (sgwrs) 15:50, 3 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Cytuno. Gweler Sgwrs:Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 8 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]
Mi rois ddolen i drafodaeth ar dy waith, uchod. Ar ddiwedd y drafodaeth honno gofynais i ti beidio a chreu rhagor o erthyglau newydd, nes iti gywiro'r hen rai. Rwyt ti wedi anwybyddu hynny; ond dwyt ti chwaith ddim wedi gadael unrhyw sylwadau ar yr hyn mae @Deb: a {{Ping|Craigysgafn}] wedi'i awgrymu wrthot. Nid chwarae dy ran o fewn y gymuned yw hyn, ond anwybyddu'r gymuned. Oherwydd hyn, dw i'n rhoi rhybudd iti: os wnei di greu rhagor o erthyglau, byddaf yn dy atal rhag golygu. Os oes golygyddion yn anghytuno gyda hyn, dwedwch rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:43, 3 Rhagfyr 2022 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno. Deb (sgwrs) 10:03, 3 Rhagfyr 2022 (UTC)[ateb]
Helo Mr @Llywelyn2000.
Sori, wnes i ddim sylwi ar y rhybudd blaenorol! Wnes i ddim sylwi arno mewn gwirionedd.
Ni fyddaf yn creu erthyglau newydd a byddaf yn gwella erthyglau a grëwyd yn flaenorol.
A diolch am y nodyn hwnnw. Osps7 (sgwrs) 11:45, 3 Rhagfyr 2022 (UTC)[ateb]