Sgwrs Defnyddiwr:CamWrthGam

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, CamWrthGam! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,445 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 18:40, 11 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Gobeithiwn allwn gyfrannu rhywbeth o werth yma! CamWrthGam (sgwrs) 22:29, 11 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]

Yr Alaeth = Y Llwybr Llaethog?[golygu cod]

Gwych gweld yr adran seryddiaeth yn datblygu: hen bryd! Sut fyddet yn gwahaniaethu rhwng y ddau uchod? Ond enw ein galaeth ni yw'r Ll-Ll? Un erthygl sydd ar Wici Saesneg. Onid yw hyn yn gyfystyr a phe bai dwy erthygl ar yr Haul: 'yr Haul' a 'Haul'? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:44, 4 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am gywiro fy nhestun. Fel dysgwr Cymraeg, mae'n anodd i mi ysgrifennu Cymraeg gywir a chlir heb camgymeriadau yr holl amser.
Yn fy marn cryf i, ystyr "Llwybr Llaethog" ydy'r band o oleuni trwy'r wybren, a felly mae'r gair yn gallu disgrifio disg ein Galaeth. Ond mae'r Alaeth ei hun yn llawer mwy na hyn. Mae'r Alaeth yn cynnwys y mater tywyll, a hefyd yn cynnwys clystyrau globylog (clysterau crwn) a sêr sydd uwchben y disg.
Mae'r Wikipedia Saesneg yn cymysgu'r cysyniad o'r "Milky Way" gyda "The Galaxy" neu'r "Milky Way Galaxy", rhywbeth sydd yn cael ei wneud yn aml ar lefel gwyddoniaeth poblogaidd. Mae'r llên ymchwil yn eithaf gwahanol, ac yn gwahaniaethau rhwng y ddwy syniad yn fwy cyson. Mae llawer o erthyglau Wiki mewn iethoedd eraill yn cymysgu'r ddwy beth yn yr un ffordd â'r Saesneg. Ond dydy hynny ddim yn reswm i'r Wicipedia Cymraeg eu dilyn.
Un fantais i ddefnyddio dwy erthyglau ydy y gallai'r un am y Llwybr Llaethog canolbwyntio ar beth sydd yn cael ei arsyllu yn yr awyr nos, ac ar draddodiadau hanesyddol (fel yr hen enwau Cymraeg). Mae'r erthygl Yr Alaeth ar y llaw arall yn gallu canolbwyntio ar natur corfforol (neu ffisegol) yr Alaeth.
Dyna'r rheswm benderfynais i ddefnyddio dwy erthygl. Ydych chi'n cytuno?
CamWrthGam (sgwrs) 11:50, 4 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno gyda ti mae cysyniad o safbwynt y ddaear (a phobol) yw'r Llwybr Llaethog, nid disgrifio ein galaeth ni yn ei gyfanswm. Ychydig bach fel y gwahaniaeth rhwng 'Yr awyr' sef y ffurfafen i'w weld uwchben unrhyw fan ar y ddaear, a 'Yr atmosffer' sydd ond i'w weld yn llawn unwaith i chi adael y ddaear. Wrth ddefnyddio 'Milky Way' yn saesneg mae'r gair galaxy yn ymhlyg, er i leygwyr dyw e ddim yn amlwg. --Dafyddt (sgwrs) 13:18, 4 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Dydw i ddim yn sicr bod yr Alaeth yn ymhlyg yn y Saesneg "Milky Way" chwaith. Efallai mae rhyw lefel o ddryswch yn drafodiadau poblogaidd yn Saesneg am y "Milky Way" rhwng y band yn yr awyr a'r Alaeth yn ei cyfanswm. Fy mhenderfyniad oedd i wahaniaethu rhwng y ddwy gysyniad yn Gymraeg.
Un problem ges i oedd penderfynu pa geiriau i ddefnyddio am rai pethau. Er engraifft, mae "globular cluster" yn derm safonol yn Saesneg. Ond beth dylai'r Gymraeg fod? Mae Geiriadur yr Academi yn dweud "clwstwr crwn", ond mae'r enw Saesneg yn dod o'u ymddangosiad fel glôb, ac yn aml mae clystyrau agoed (math arall) hefyd yn ymddangos yn grwn. Felly fe ddefnyddiais i "clwster globylog" ("globylog" ydy un o sawl geiriau am "globular" yng Ngeiriadur yr Academi). Beth am "dark matter halo"? Ydy "corongylch mater tywyll" yn dderbyniol? CamWrthGam (sgwrs) 16:58, 4 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Dau beth. 1. Ar en-wici fe geir y sylw canlynol gan User:TowardsTheLight, ond ni fu ymateb iddo hyd yma. -
In my view the Milky Way refers to the luminous band across the sky caused by the light of stars in the disc of the Galaxy (and probably the Bulge too). The galaxy that the Solar System is part of is the Galaxy, which can reasonably be called the Milky Way Galaxy. To me Milky Way refers only to the Galactic disc and Bulge and the objects they contain. It does not refer to the stellar halo, the Galactic Centre or the dark matter halo. So, personally, I would have written two articles, one called The Galaxy or possibly The Milky Way Galaxy about the galaxy we live in, and another article called Milky Way about the luminous band across the sky. However, this would be a different perspective from the one used here on the English-language Wikipedia page, and from most of the other language Wikipedias I can half get the gist of. TowardsTheLight (talk) 09:48, 1 December 2015 (UTC).
Yn ail, 'dyw'r uchod (na Defnyddiwr:CamWrthGam) ddim yn nodi unrhyw engreifftiau o'r term 'Yr Alaeth' yn cael ei ddefnyddio mewn gwefannau allanol, fel endid ar wahan i'r Llwybr Llaethog. Byddai defnyddio'r enghreifftiau hyn yn gefn cryf i'r ddadl dros dwy erthygl.
I gloi, dw i ddim o blaid nac yn erbyn; ond mae'n rhaid dilyn trefn arferol Wici, neu newid y rheolau! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:48, 6 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Y fi wnaeth cyfrannu y sylwadau yna ar y Wikipeida Saesneg ar ôl canfod bod rhyw dryswch rhwng y Llwybr Llaethog a'r Alaeth (neu'r Alaeth y Llwybr Llaethog) yn bodoli yn Saesneg hefyd, ar ôl edrych ar yr un Cymraeg, i weld os oedd y Wikipedia Saesneg yn gweud yr un peth. (Rydw i'n defnyddio'r cyfrif TowardsTheLight i olygu yn Saesneg.) Felly dydy'r sylwadau ar y Wikipedia Saesneg ddim yn annibynnol o gwbl i'm syniadau i yma yn Gymraeg.
I weld engraifft o wahaniaethu rhwng y term "Milky Way" yn Saesneg a'r Alaeth (neu'r "The Galaxy" a "Milky Way Galaxy") yn ei chyfanswm, mae erthygl Britannica yma gan y seryddwr Paul Hodge: http://www.britannica.com/place/Milky-Way-Galaxy
CamWrthGam (sgwrs) 15:16, 6 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Diolch! Cytuno iddo aros felly. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:41, 17 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]