Ronald Stuart Thomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr llyfr, gyda llun o R, S. Thomas

Bardd o Gymro oedd Ronald Stuart Thomas neu R. S. Thomas (29 Mawrth, 1913 - 25 Medi, 2000). Ysgrifennai ei farddoniaeth yn Saesneg ond cyhoeddodd yn ogystal ddarlithiau a chyfrolau rhyddiaith yn Gymraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru oedd e wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Gymraeg ac yr oedd yn genedlaetholwr digymrodedd.

Bywgraffiad[golygu]

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd. Ei wraig oedd Mildred Eldridge, arlunydd o Saesnes.

Treuliodd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor plwyf gwledig Manafon, Powys (1942-1954) a ficer plwyf Eglwys Fach, Ceredigion am dair mlynedd ar ddeg (1954-1967). O Eglwys Fach aeth i weinyddu fel ficer Aberdaron yn Llŷn. Ar ei ymddeoliad o'r eglwys yn 1978, aeth i fyw ym mhentref Y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn. Ennillodd yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996.

Yn ôl Dafydd Ellis-Thomas, mae'i gyfrol Uncollected Poems (2013; www.bloodaxebooks.com) yn "dangos bod RS wedi creu campweithiau'r 20fed ganrif mewn sawl math o gerddi: cerddi am natur y greadigaeth a chân yr adar, canu tanbaid serch a chariad, y canu mwyaf deallus am Gymru fel cenedl..."[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith R. S.[golygu]

Clawr casgliad o waith y bardd
Cyfieithiad
  • R.S. Thomas: Deciduous Language / Laubbaum Sprache. Gedichte. Hg. und übersetzt von Kevin Perryman. Babel Verlag, Denklingen 1998. 88 S., 42 Mark. Dewis o'i farddoniaeth wedi ei chyfiethu i'r Almaeneg.

Astudiaethau[golygu]

Y Gororau'r Iaith - R S Thomas a'r Traddodiad Cymraeg gan Jason Walford Davies

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Golwg; 11 Ebrill, 2013; tudalen 19.

Dolenni allanol[golygu]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.