Roger Casement

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Roger Casement

Cenedlaetholwr Gwyddelig oedd Roger David Casement (Gwyddeleg: Ruairí Mac Easmainn) (1 Medi 18643 Awst 1916).

Ganed Casement yn ninas Dulyn. Protestant oedd ei dad, ond Catholig oedd ei fam, a dywedir iddi hi drefnu i'w ail-fedyddio yn eglwys Gatholig y Rhyl pan oedd yn dair oed. Roedd ei rieni ill dau wedi marw erbyn iddo gyrraedd deg oed.

Aeth Casement i Affrica yn 1883 pan oedd yn 19 oed. Yn y Congo, bu'n gweithio i nifer o gwmnïau, yn cynnwys yr Association Internationale Africaine a sefydlwyd gan Leopold II, brenin Gwlad Belg. Cyfarfu a Henry Morton Stanley a Joseph Conrad tra'r oedd yno.

Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Unedig yn Nigeria. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn 1903, gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn 1904, a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn 1906 gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn Rio de Janeiro. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion Periw gan y Peruvian Amazon Company Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i gaethwasiaeth ar gyfer cynhyrchu rwber. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn 1911.

Yn 1912 gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r Irish Volunteers dan Eoin MacNeill. Pan oedd Gwrthryfel y Pasg yn cael ei baratoi, aeth i'r Almaen i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr Aud Norge, yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a Casement i Iwerddon mewn llong danfor a'i ollwng ar draeth Banna yn Swydd Kerry. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.

Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Llundain am deyrnfradwriaeth, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Roedd ganddo nifer o gefnogwyr amlwg, yn cynnwys George Bernard Shaw ac Arthur Conan Doyle, ond llwyddodd y llywodraeth Brydeinig i leihau y gefnogaeth iddo trwy gyhoeddi ei ddyddiaduron personol. Roedd y rhain yn dangos fod Casement yn gyfunrywiol gyda hoffder o fechgyn cynharol ieuainc, rhywbeth hollol annerbyniol yn y cyfnod. Mae rhai wedi awgrymu fod y rhannau yma yn y dyddiaduron wedi eu ffugio gan y llywodraeth.

Crogwyd Casement yn ngharchar Pentonville yn Llundain ar 3 Awst, 1916, a chladdwyd ef o fewn y carchar. Yn 1965, dychwelwyd ei gorff i Iwerddon, a'i gladdu ym Mynwent Glasnevin.