Robin Huw Bowen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robin Huw Bowen yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Cerddor sy’n arbenigo mewn canu’r delyn deires yw Robin Huw Bowen. Ganed ef yn Lerpwl i deulu o Ynys Môn .

Dysgodd ganu’r Delyn Geltaidd yn yr ysgol dan ddylanwad Alan Stivell. Dechreuodd gymeryd diddordeb yn y Delyn deires trwy ddylanwad Dafydd a Gwyndaf Roberts o’r grŵp Ar Log, oedd wedi eu dysgu gan Nansi Richards. Ymunodd a grŵp Mabsant yn 1986 ac yn ddiweddarach a Cusan Tân. Ers 1998 mae wedi bod yn aelod o Crasdant. Yn 2004 ffurfiodd ef a phedwar telynor arall Rhes Ganol.

Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am flynyddoedd, a thra yno bu’n ymchwilio i hen gerddoriaeth telyn Gymreig. Cyhoeddwyd nifer o’r tonau hyn gan y Llyfrgell neu gan ei wasg ef ei hun, Gwasg Teires. Ymhlith ffynonellau eraill, cafodd wybodaeth gan y delynores Eldra Jarman, gor-wyres John Roberts ('Telynor Cymru'), cynrychiolydd olaf traddodiad y telynorion Sipsi Cymreig.

Dyfarnwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn 2000 ac yn 2002 enillodd BAFTA (Cymru) am ei gerddoriaeth wreiddiol i'r ffilm Eldra.

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Trwy'r Weiar - Through the Wire (1987) gyda Mabsant
  • Telyn Berseiniol Fy Ngwlad - Sweet Harp of My Land (1991)
  • Cusan Tân - Kiss of Fire (1992) gyda Cusan Tân
  • Hela'r Draenog - Hunting the Hedgehog (1994)
  • Cerddoriaeth Telyn Cymru - Harp Music Of Wales (1995)
  • Esgair - The Ridge (1996) gyda Cusan Tân
  • Hen Aelwyd - Old Hearth (1999)
  • Crasdant (1999) gyda Crasdant
  • Nos Sadwrn Bach - Not Yet Saturday (2001) gyda Crasdant
  • Yn y Gwaed - In the Blood (2004) gyda Rhes Ganol
  • Dwndwr - The Great Noise (2005) gyda Crasdant
  • Y Ffordd i Aberystwyth - The Road to Aberystwyth (2007)

Cysylltiad allanol[golygu]

Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato