Alan Stivell
Oddi ar Wicipedia
Cerddor Llydewig yw Alan Stivell (ganed Alan Cochevelou 6 Ionawr, 1944). Mae ei enw llwyfan "Stivell" yn golygu "ffynnon" yn Llydaweg. Roedd ei deulu o Gourin ond treuliodd ei blentyndod ym Mharis. Magodd ddiddordeb yng ngherddoriaeth Llydaw ac ym 1953 dechreuodd ganu'r delyn. Ef yn anad neb arall sy'n gyfrifol am boblogrwydd y delyn Geltaidd. Dysgodd Lydaweg a bu'n cystadlu mewn gwyliau gwerin yn Llydaw. Dechreuodd recordio ym 1959, ac ymddangosodd yr LP Telenn Geltiek ym 1960. Daeth yn adnabyddus iawn yn ystod y 1970au gyda'r adfywiad mewn canu gwerin, a bu ar daith i nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru (mae ei fersiwn o 'Mae gen i ebol melyn' yn arbennig o Geltaidd).
[golygu] Ieuenctid
Yn 1953 cerfidodd ei dad (Georges Cochevelou) delyn Geltaidd i'w fab, a honno wedi ei llunio ar delynau traddodiadol Llydewig. Dysgodd siarad Llydaweg yn sydyn iawn; dysgodd hefyd llawer am ddawnsio traddodiadol Llydaw. Dysgodd hefyd sut i chwythu'r pibgorn a'r bombarde Llydewig. Recordiodd sengl yn 1953 ac yna Telenn Geltiek yn 1963.
[golygu] Arweinydd y Mudiad Cerddoriaeth Geltaidd
Perfformiodd ar y cyd gyda'r Moody Blues yn Llundain yn (1968). Yn 1970, lansiodd y sengl "Broceliande" a Reflets, y ddau ar label Philips. Roedd lansio'r albwm hwn yn faniffesto dros ei ymgyrch dros Cerddoriaeth y Byd (neu 'World Music').
Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y symudiad Llydewig o 'fynd yn ôl at y gwreiddiau', drwy recordio albwm (yn 1971) o'r enw Renaissance de la Harpe Celtique.
Teithiodd led-led yn byd yn canu mewn gwledydd megis Canada, UDA, Gwledydd Prydain a Ffrainc.
Yn 1976 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Llydewig.
Yn 1979 impiodd nifer o genres wrth ei gilydd i greu Symphonie Celtique: roc, elfenau 'Berber' y lleisydd Djouha a'r sitaryddNarendra Bataju. Roedd y perfformiad cyntaf o'r Symffoni Celtaidd ym maes pel-droed enfawr Gŵyl Geltaidd Loirent o flaen deg mil o gynulleidfa. Chwarter awr cyn y diwedd, daeth cawod ysgafn o law ac ni orffenwyd y symffoni. Rhoddwyd y cyfan ar ddisg, fodd bynnag.
Yn yr 1980au trodd y canu gwerin yn fath arall roedd wedi ei ragweld flynyddoedd ynghynt, sef Cerddoriaeth y Byd. Cydweithiodd dro ar ôl tro gyda Kate Bush.
[golygu] Discograffiaeth
- Telenn Geltiek / Harpe celtique (1964)
- Reflets/Reflections (1970-71)
- Renaissance de la Harpe Celtique (1971-72)
- A l'Olympia - Live (1972)
- Chemins de Terre (1973)
- E Langonned / A Langonnet (1974)
- Grand Succès d'Alan Stivell (c 1975)
- E Dulenn /Live In Dublin (1975)
- Celtic Rock (1976)
- Trema'n inis/Vers l'ile (1976)
- Roak Dilestra/Avant d'accoster/Before Landing (1977)
- Un Dewezh 'barzh gêr/Journée a la maison (1978)
- International Tour / Tro ar Bed (1979)
- Symphonie Celtique ( Tir na-nOg) (1979)
- Terre des vivants / Tir an dud vew (1981)
- Alan Stivell (1982)
- Legend / Mojenn (1983)
- Harpes du Nouvel Âge / Telenn a' Skuilh-dour (1985)
- The Mist Of Avalon (1991)
- Again (1993)
- Brian Boru (1995)
- 70/95 Zoom (1997)
- 1 Douar/1 Earth (1998)
- Back To Breizh (1999)
- Beyond Words/En tu-hont d'ar c'homzoù (2002)
- Explore (2006)


