Rhegen y Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhegen y Dŵr
Rallus aquaticus 4 (Marek Szczepanek).jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gruiformes
Teulu: Rallidae
Genws: Rallus
Rhywogaeth: R. aquaticus
Enw deuenwol
Rallus aquaticus
(Linnaeus, 1758)

Aderyn o deulu'r Rallidae, y Rhegennod, yw Rhegen y Dŵr (Rallus aquaticus).

Mae'n nythu mewn corsydd a gwlbtiroedd eraill ar draws Ewrop ac Asia. Dodwyir yr wyau mewn lle sych yn y tyfiant, ac mae'n dodwy hyd at ddwsin ohonynt. Yn y gogledd a'r dwyrain mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin a de Ewrop, mae'n aros trwy'r flwyddyn.

Aderyn cymharol fychan ydyw, 23-26 cm o hyd. Mae'r cefn yn frown a rhan isaf yr aderyn yn llwydlas, gyda rhesi duon ar yr ystlys. Mae'r cywion yn ddu. Pryfed ac anifeiliaid dŵr bychan yw eu prif fwyd.

Mae'n aderyn cynharol gyffrein mewn cynefinoedd addas yng Nghymru, ond gall fod yn aderyn anodd iawn ei weld, gan ei fod yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y tyfiant. Gall fod yn haws ei glywed yn y tymor nythu, pan mae'n rhoi gwich tebyg i sŵn mochyn.


Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:


[golygu] Galleri

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill