Rafael Nadal
| Llysenw | Rafa, El toro (Y Tarw) | |
| Gwlad | ||
| Cartref | Manacor, Mallorca | |
| Dyddiad Geni |
Mehefin 3, 1986 |
|
| Lleoliad Geni | Manacor, Mallorca | |
| Taldra | 1 m 85 | |
| Pwysau | 85 cg | |
| Aeth yn broffesiynol | 2001 | |
| Ffurf chwarae | Chwith; Gwrthlaw ddeulaw | |
| Arian Gwobr Gyrfa | UD$34,605,902 | |
| Senglau | ||
| Record Gyrfa: | 460 – 98 | |
| Teitlau Gyrfa: | 42 | |
| Safle uchaf: | 1 (18 Awst 2008) | |
| Canlyniadau'r Gamp Lawn | ||
| Agored Awstralia | cynderfynol (2009) | |
| Agored Ffrainc | enillwr (2005, 2006, 2007, 2008, 2010) | |
| Wimbledon | enillwr (2008, 2010) | |
| Agored yr UD | enillwr (2010) | |
| Parau | ||
| Record Gyrfa: | 81 – 52 | |
| Teitlau Gyrfa: | 6 | |
| Safle uchaf: | 26 (8 Awst 2005) | |
|
Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 14 Medi 2010. |
||
Chwaraewr tenis Sbaenaidd sydd ar hyn o bryd yn dal safle Rhif 1 y Byd yw Rafael Nadal Parera (IPA: [rafaˈel naˈðal]) (ganwyd 3 Mehefin, 1986).
Mae Nadal wedi ennill pum teitl senglau y Gamp Lawn a medal aur yng Ngemau Olympaidd 2008. Enillodd Pencampwriaeth Agored Ffrainc pedwar gwaith yn olynol rhwng 2005 a 2008 a Phencampwriaeth Wimbledon yn 2008. Ef yw'r unig ddyn ar wahân i Björn Borg i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc pedwar gwaith yn olynol, un o ddim ond tri dyn yn yr Oes Agored i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc a Wimbledon yn yr un flwyddyn calendr, yr ail Sbaenwr i ennill Wimbledon, a'r unig ddyn i fynd i mewn i'r Gemau Olympaidd gyda safle yn y pump uchaf ac yna ennill medal aur yn y gystadleuaeth senglau.
Mae gan Nadal gystadleuaeth yrfa gyda Roger Federer. Nadal oedd Rhif 2 y Byd y tu ôl i Federer am record o 160 o wythnosau cyn iddo ennill y safle uchaf.[1] Enillodd Nadal 12 o'u 18 o ornestau senglau, yn cynnwys pedair o'u chwe gornest rownd derfynol mewn cystadleuaethau'r Gamp Lawn.[2]
Mae Nadal yn hynod o lwyddiannus ar gyrtiau clai: mae ganddo record 22–1 mewn rowndiau terfynol twrnameintiau ar gyrtiau clai.[3] Ym mhob un o'r bedair mlynedd ddiwethaf, mae wedi ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc a dau dwrnamaint cwrt clai Cyfres y Meistri. Nadal sy'n dal y record am ennill y mwyaf o ornestau olynol ar yr un arwyneb yn yr Oes Agored, gan iddo chwarae 81 o ornestau ar glai yn olynol o Ebrill 2005 i Mai 2007 heb gael ei drechu.[4] O ganlyniad, ystyrid gan rai sylwebyddion a phrif chwaraewyr tenis fel y chwaraewr cyrtiau clai gorau erioed.[5][6][7]
Yn 2008, derbyniodd Gwobr Tywysog Asturias am chwaraeon.[8]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) It's official: Nadal will pass Federer for No. 1. NBC (1 Awst, 2008). Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Roger, Rafa to Meet in Record Sixth Grand Slam Final (4 Gorffennaf, 2008).
- ↑ (Saesneg) Nadal's Numbers: 10 amazing clay stats. TENNIS.com. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Garber, Greg (20 Mai, 2007). Federer ends Nadal's win streak. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Harwitt, Sandra (8 Mehefin, 2008). Is Rafael Nadal the best clay-court player ever?. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Perrotta, Tom (28 Ebrill, 2008). Nadal Appearing Unbeatable on Clay. The New York Sun. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Bondo, Peter. Endgame on Clay. TENNIS.com. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Rafael Nadal (enillwr Gwobr Chwaraeon 2008). Fundación Príncipe de Asturias. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Saesneg) (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Rafael Nadal
- (Saesneg) Proffil ATP Tour ar gyfer Rafael Nadal
| Safleoedd chwaraeon | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Roger Federer |
Rhif 1 y Byd 18 Awst 2008 – 6 Gorffennaf 2009 |
Olynydd: Roger Federer |
| Rhagflaenydd: Roger Federer |
Rhif 1 y Byd 7 Mehefin 2010 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Gwobrau | ||
| Rhagflaenydd: Nicolás Massú |
Pencampwr Olympaidd 2008 |
Olynydd: deiliad |
| Rhagflaenydd: Paul-Henri Mathieu |
Gwobr ATP am y Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn 2003 |
Olynydd: Florian Mayer |
| Rhagflaenydd: Joachim Johansson |
Gwobr ATP am y Chwaraewr sydd wedi Gwella Mwyaf 2005 |
Olynydd: Novak Djokovic |
| Rhagflaenydd: Liu Xiang |
Gwobr Laureus am Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn 2006 |
Olynydd: Amélie Mauresmo |
|
|
|
|---|---|
| Ilie Năstase | John Newcombe | Jimmy Connors | Björn Borg | John McEnroe | Ivan Lendl | Mats Wilander | Stefan Edberg | Boris Becker | Jim Courier | Pete Sampras | Andre Agassi | Thomas Muster | Marcelo Ríos | Carlos Moyà | Yevgeny Kafelnikov | Patrick Rafter | Marat Safin | Gustavo Kuerten | Lleyton Hewitt | Juan Carlos Ferrero | Andy Roddick | Roger Federer | Rafael Nadal | Novak Djokovic |
|
|
|
|---|---|
|
* Yr Oes Agored • (1969) Rod Laver • (1970) Arthur Ashe • (1971-72) Ken Rosewall • (1973) John Newcombe • (1974) Jimmy Connors • (1975) John Newcombe • (1976) Mark Edmondson • (1977 [Ion]) Roscoe Tanner • (1977 [Rhag]) Vitas Gerulaitis • (1978-79) Guillermo Vilas • (1980) Brian Teacher • (1981-82) Johan Kriek • (1983-84) Mats Wilander • (1985) Stefan Edberg • (1986) dim cystadleuaeth • (1987) Stefan Edberg • (1988) Mats Wilander • (1989-90) Ivan Lendl • (1991) Boris Becker (1992-93) Jim Courier • (1994) Pete Sampras • (1995) Andre Agassi • (1996) Boris Becker • (1997) Pete Sampras • (1998) Petr Korda • (1999) Yevgeny Kafelnikov • (2000-01) Andre Agassi • (2002) Thomas Johansson • (2003) Andre Agassi • (2004) Roger Federer • (2005) Marat Safin • (2006-07) Roger Federer • (2008) Novak Djokovic • (2009) Rafael Nadal • (2010) Roger Federer • (2011-13) Novak Djokovic |
|
|
|
|---|---|
| * Yr Oes Agored · (1968) Ken Rosewall · (1969) Rod Laver · (1970–71) Jan Kodeš · (1972) Andrés Gimeno · (1973) Ilie Năstase · (1974–75) Björn Borg · (1976) Adriano Panatta · (1977) Guillermo Vilas · (1978–81) Björn Borg · (1982) Mats Wilander · (1983) Yannick Noah · (1984) Ivan Lendl · (1985) Mats Wilander · (1986–87) Ivan Lendl · (1988) Mats Wilander · (1989) Michael Chang · (1990) Andrés Gómez · (1991–92) Jim Courier · (1993–94) Sergi Bruguera · (1995) Thomas Muster · (1996) Yevgeny Kafelnikov · (1997) Gustavo Kuerten · (1998) Carlos Moyà · (1999) Andre Agassi · (2000–01) Gustavo Kuerten · (2002) Albert Costa · (2003) Juan Carlos Ferrero · (2004) Gastón Gaudio · (2005–08) Rafael Nadal · (2009) Roger Federer · (2010-12) Rafael Nadal |
|
|
|
|---|---|
|
* Yr Oes Agored • (1968-69) Rod Laver • (1970–71) John Newcombe • (1972) Stan Smith • (1973) Jan Kodeš • (1974) Jimmy Connors • (1975) Arthur Ashe • (1976–80) Björn Borg • (1981) John McEnroe • (1982) Jimmy Connors • (1983–84) John McEnroe • (1985–86) Boris Becker • (1987) Pat Cash • (1988) Stefan Edberg • (1989) Boris Becker • (1990) Stefan Edberg (1991) Michael Stich • (1992) Andre Agassi • (1993–95) Pete Sampras • (1996) Richard Krajicek • (1997–00) Pete Sampras • (2001) Goran Ivanišević • (2002) Lleyton Hewitt • (2003–07) Roger Federer • (2008) Rafael Nadal • (2009) Roger Federer • (2010) Rafael Nadal • (2011) Novak Djokovic • (2012) Roger Federer |
|
|
|
|---|---|
|
* Yr Oes Agored • (1968) Arthur Ashe • (1969) Rod Laver • (1970) Ken Rosewall • (1971) Stan Smith • (1972) Ilie Năstase • (1973) John Newcombe • (1974) Jimmy Connors • (1975) Manuel Orantes • (1976) Jimmy Connors • (1977) Guillermo Vilas • (1978) Jimmy Connors • (1979–81) John McEnroe • (1982–83) Jimmy Connors • (1984) John McEnroe • (1985–87) Ivan Lendl • (1988) Mats Wilander • (1989) Boris Becker • (1990) Pete Sampras • (1991–92) Stefan Edberg • (1993) Pete Sampras • (1994) Andre Agassi • (1995–96) Pete Sampras • (1997–98) Patrick Rafter • (1999) Andre Agassi • (2000) Marat Safin • (2001) Lleyton Hewitt • (2002) Pete Sampras • (2003) Andy Roddick • (2004–08) Roger Federer • (2009) Juan Martín del Potro • (2010) Rafael Nadal • (2011) Novak Djokovic • (2012) Andy Murray |