Andy Murray

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Andy Murray
Andy Murray
Gwlad Baner Prydain Fawr Prydain Fawr[1]
Baner Yr Alban Yr Alban[2]
Cartref Llundain
Dyddiad Geni (1987-05-15)

Mai 15, 1987 (26 oed)

Lleoliad Geni Glasgow,[3] Yr Alban
Taldra 1.90 m
Pwysau 84 kg
Aeth yn broffesiynol 2005
Ffurf chwarae Dde; Gwrthlaw ddeulaw
Arian Gwobr Gyrfa $UD 7,962,968
Senglau
Record Gyrfa: 200-72
Teitlau Gyrfa: 12
Safle uchaf: 3 (11 Mai, 2009)
Canlyniadau'r Gamp Lawn
Agored Awstralia 4ydd Rownd (2007, 2009)
Agored Ffrainc cyn-cynderfynol (2009)
Wimbledon cynderfynol (2009)
Agored yr UD terfynol (2008)
Parau
Record Gyrfa: 23-36
Teitlau Gyrfa: 0
Safle uchaf: 89 (2 Ebrill, 2007)

Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 9 Gorffennaf, 2009.

Chwaraewr tenis Albanaidd[4] sy'n cynrychioli'r Alban[2] a Phrydain Fawr[1] yw Andrew "Andy" Murray (ganwyd 15 Mai 1987 yng Nglasgow). Mae'n enwog am ei echwythiadau angerddol aml a'i dalent naturiol.

Ar hyn o bryd Murray yw chwaraewr dethol gorau'r DU, gyda safle 19 yn y byd. Yn Rhagfyr 2005 enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon Albanaidd y Flwyddyn BBC Scotland, ac adran chwaraeon y gwobrau Top Scot. Cafodd ei enwebu'n chwaraewr y flwyddyn yng ngwobrau'r Lawn Tennis Association yn 2005.[5] Mae ei frawd hŷn Jamie yn chwaraewr parau dethol gorau'r DU.

Mae Murray nawr yn 190 cm o daldra, ar ôl tyfu 3 cm yn ystod 2006, ac mae'n defnyddio trawiad gwrthlaw deulaw eithriadol. Ei hyfforddwr cyfredol yw Brad Gilbert. Mae Murray hefyd yn ffrindiau da efo'i gyd-chwaraewr tenis Novak Đoković.

Enillodd Murray y fedal aur yn nhwrnamaint senglau dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012. Enillodd ef Bencampwriaeth yr Unol Daleithiau yn 2012.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Mark Hodgkinson (22 Gorffennaf, 2006). Bogdanovic frame of mind is key to British success. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Murray out to please Scots crowd. BBC Sport (25 Tachwedd, 2005). Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  3. (Saesneg) Biography. andymurray.com. ""I was born in Glasgow on the 15th May 1987""
  4. (Saesneg) Louise Gray (1 Rhagfyr, 2005). Rankin the toast of Scotland as fans sing his praises. The Scotsman. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  5.  Murray yw chwaraewr y flwyddyn. BBC Chwaraeon (8 Rhagfyr, 2005). Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.

Cysylltiadau allanol[golygu]