Y Pencampwriaethau, Wimbledon

Oddi ar Wicipedia
Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathtwrnamaint tenis Edit this on Wikidata
Rhan oY Gamp Lawn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1877 Edit this on Wikidata
LleoliadClwb Tenis Lawnt a Croce Lloegr Cyfan Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthWimbledon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wimbledon.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Wimbledon
Cyn bencampwr y byd Steffi Graf, o'r Almaen

Twrnamaint tenis hynaf y byd a ystyrir yn aml fel y gystadleuaeth denis uchaf ei fri yw Pencampwriaethau, Wimbledon neu Wimbledon.[1][2] Fe'i gynhelir yng Nglwb All England ym maestref Wimbledon, Llundain, ers 1877. Wimbledon yw'r hynaf o bedwar twrnamaint tenis y Gamp Lawn, a'r unig un a barheir i chwarae ar gyrtiau gwair.

Cynhelir y twrnamaint bob blwyddyn am 14 diwrnod o ddiwedd Mehefin i gychwyn Gorffennaf,[3] gyda rownd derfynol y senglau dynion, a chwaraeir ar Ddydd Sul, fel uchafbwynt y cystadlaethau. Chwaraeir pump prif gystadleuaeth yn y twrnamaint, yn ogystal â phedair cystadleuaeth iau a phedair cystadleuaeth wahoddiad.

Wimbledon yw'r drydedd twrnamaint yn nhymor blynyddol y Gamp Lawn; rhagflaenir gan Bencampwriaeth Agored Awstralia, ar gyrtiau caled, a Phencampwriaeth Agored Ffrainc, ar gyrtiau clai. Fe'i olynir gan Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau, ar gyrtiau caled. Mae Pencampwriaethau Clwb y Frenhines, a gynhelir ar gyrtiau gwair yn Llundain, hefyd yn dwrnamaint poblogaidd sy'n rhagflaenu Wimbledon.

Mae traddodiadau Wimbledon yn cynnwys bwyta mefus a hufen, nawddogaeth frenhinol, côd gwisg llym ar gyfer cystadleuwyr, a bechgyn a merched y bêl. Traddodiad arall sydd ddim mor boblogaidd yw galwadau "rain stops play" lle bo glaw yn rhwystro chwarae ac o ganlyniad mae gornestau yn cymryd mwy o amser neu'n rhedeg mewn i amser gornestau eraill; adeiladwyd tô sy'n tynnu'n ôl ar y Cwrt Canolog er mwyn delio â'r broblem hyn yn 2009.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Clarey, Christopher (5 Gorffennaf, 2008). Traditional Final: It’s Nadal and Federer. The New York Times. Adalwyd ar 28 Medi, 2008. "I love playing him, especially here at Wimbledon, the most prestigious tournament we have."
  2. (Saesneg) Wimbledon 2008. iloveindia.com. Adalwyd ar 28 Medi, 2008. "Wimbledon is the most prestigious tennis tournament in the world."
  3. (Saesneg) The Championships, Wimbledon 2008 — Provisional Programme of Play. Y Pencampwriaethau, Wimbledon. Adalwyd ar 28 Medi, 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]