Peris

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sant Cymreig oedd Peris (bl. 6ed ganrif efallai) a gysylltir ag Eryri a Gwynedd.

Hanes a thraddodiad[golygu]

Ychydig a wyddys amdano, ac nid oes buchedd iddo wedi goroesi. Mae cyfeiriad ato ym Monedd y Saint, lle dywedir iddo fod yn Gardinal yn Rhufain. Efallai ei fod yn fab i Helig ap Glannog o Dyno Helig.[1]

Nant Peris[golygu]

Cysegrwyd eglwys Nant Peris yng Ngwynedd iddo; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol, a datblygodd Llanberis gerllaw yn ddiweddarach.[1] Mae eglwys Llanberis wedi ei chysegru i sant Padarn yn hytrach na Peris. Ceir Ffynnon Peris (neu Ffynnon y Sant) yn Nant Peris. Rhoddodd ei enw i Lyn Peris.

Ei wylmabsant yw 11 Rhagfyr.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Baring-Gould, Sabine (1907). Lives of the British Saints'.