Panthéon Paris
Oddi ar Wicipedia
Adeilad yn ninas Paris yw'r Panthéon. Yma y claddwyd llawer o enwogion Ffrainc.
Adeiladwyd y Panthéon yn y 18fed ganrif fel eglwys. Tarawyd Louis XV, brenin Ffrainc yn ddifrifol wael yn 1744, a gwnaeth adduned y byddai'n adeiladu eglwys yn gysegredig i sant Geneviève. Ni orffennwyd y gwaith adeiladu hyd 1790.
Ymhlith yr enwogion sydd wedi eu claddu yma mae:
- Honoré-Gabriel Riqueti, comte de Mirabeau (1749-1791), gwleidydd
- Voltaire (1694-1778), athronydd ac awdur
- Jean-Paul Marat (1744-1793), gwleidydd. Cymerwyd ei lwch oddi yma yn 1795.
- Jean-Jacques Rousseau (1712-1778), athronydd ac awdur
- Jean Lannes, dug Montebello (1769-1809), milwr
- Joseph-Louis, comte de Lagrange (1736-1813), mathemategydd
- Jean Rousseau (1738-1813)
- Jacques-Germain Soufflot (1713-1780), pensaer cyntaf y Panthéon ei hun
- Victor Hugo (1802-1885), awdur
- Émile Zola (1840-1902), awdur
- Jean Jaurès (1859-1914), gwleidydd
- Louis Braille (1809-1852), dyfeisydd y dull ysgrifennu i ddeillion
- Jean Moulin (1899-1943), arweinydd y Résistance Ffrengig
- Jean Monnet (1888-1979), economegydd, un o sylfaenwyr yr Undeb Ewropeaidd
- Marie Curie (1867-1934), gwyddonydd
- André Malraux (1901-1976), awdur
- Alexandre Dumas (1802-1870), awdur