Marie Curie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marie Curie (1911)

Gwyddonwraig Ffrengig Pwylaidd oedd Marie Curie (7 Tachwedd 1867 - 4 Gorffennaf 1934). Hi oedd y cyntaf i ynysu'r elfennau radiwm a poloniwm (a enwyd ganddi ar ôl ei gwlad enedigol).

Ganwyd hi yn Warsaw, Gwlad Pwyl a'i bedyddio yn Manya Skłodowska. Astudiodd yn y Sorbonne, Paris ac ymsefydlodd yn Ffrainc. Priododd Pierre Curie, athro ffiseg yn y Sorbonne, yn 1895. Gyda'i gŵr, Pierre Curie, enillodd Wobr Ffiseg Nobel yn 1903. Dilynodd ei ŵr fel athro ffiseg y Sorbonne ar ôl ei farwolaeth yn 1906. Enillodd Wobr Cemeg Nobel yn 1911. O 1918 hyd 1934 bu'n gyfarwyddwraig adran ymchwil y Sefydliad Radiwm ym Mharis.


Scientist.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.