Jean Moulin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o Jean Moulin, gyda chroes Lorraine yn y cefndir

Aelod o'r résistance yn Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Jean Moulin (20 Mehefin 1899 – 8 Gorffennaf 1943). Ym 1941 teithiodd Moulin i Lundain a chafodd ei ofyn gan Charles de Gaulle i uno grwpiau amrywiol y résistance. Llwyddodd i berswadio'r mudiadau Combat, Libération, a Francs-tireurs i uno i ffurfio'r Mouvements Unis de la Résistance (M.U.R.) yn Ionawr 1943. Ar 21 Mehefin 1943 cafodd Moulin ei arestio ger Lyon a'i gwestiynu gan Klaus Barie, pennaeth y Gestapo yn yr ardal. Bu farw ger Metz ar drên ar y ffordd i'r Almaen.