Antoine de Saint-Exupéry
Awyrennwr ac awdur Ffrengig oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 1900 - 31 Gorffennaf 1944).[1][2]
Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Sénégal. Cyhoeddodd Courrier Sud, yn seiledig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.
O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymeryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.
Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, Le Petit Prince, yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel Y Tywysog Bach gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007).
Gweithiau (detholiad)[golygu]
- Courrier sud (nofel) (1929)
- Vol de nuit (1931)
- Terre des hommes (1939)
- Le Petit Prince (1943)
- Pilote de guerre (1942)
- Lettre à un otage, traethawd
- Citadelle
- Lettres de jeunesse
- Carnets
- Lettres à sa mère
- Écrits de guerre 1939-1944
- Kimmeke toch '
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Schiff (2006), p. xi.
- ↑ Severson (2004), p. 158.