Osian Rhys Jones

Oddi ar Wicipedia
Osian ar y chwith gyda Geraint Jarman ym Mehefin 2012.

Mae'r Prifardd Osian Rhys Jones yn fardd Cymraeg sy'n arbenigo yn y canu caeth.

Cafodd ei fagu ger Y Ffôr, Pwllheli a bu'n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Coleg Meirion-Dwyfor a Phrifysgol Aberystwyth. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd[1].

Yn Hydref 2012 roedd yn un o bedwar bardd a dderbyniodd her Llenyddiaeth Cymru i sgwennu 100 o gerddi mewn 24 awr.[2] Mae'n clera Cymru benbaladr yn darllen ei waith.[3] Yn 2012 cydweithiodd gyda'r cyfansoddwr Endaf Emlyn i sgwenu cân am dref Pwllheli.[4].

Enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 am ei gerdd ar y testun Yr Arwr/Arwres[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]