Oblast Kaliningrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Kaliningrad.
Lleoliad Oblast Kaliningrad yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kaliningrad (Rwseg: Калинингра́дская о́бласть, Kaliningradskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kaliningrad, ar lan y Môr Baltig. Poblogaeth: 941,873 (Cyfrifiad 2010).

Mae'n rhan o ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol.

Mae tiriogaeth Oblast Kaliningrad yn cynnwys rhan ogleddol yr hen Dwyrain Prwsia (Almaeneg: Nord-Ostpreussen), a fu'n allglofan o'r Almaen o'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd 1945. Yn 1946 daeth y diriogaeth yn rhan o'r Undeb Sofietaidd dan amodau Cytundeb Potsdam.

Mae'r oblast yn glofan a amgylchynir yn gyfangwbl gan Gwlad Pwyl i'r de, Lithwania i'r dwyrain a'r gogledd, a'r Môr Baltig i'r gorllewin.

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.