Oblast Irkutsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Irkutsk.
Lleoliad Oblast Irkutsk yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Irkutsk (Rwseg:Ирку́тская о́бласть, Irkutskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Irkutsk. Poblogaeth: 2,428,750 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir Oblast Irkutsk yn ne-ddwyrain Siberia ym masnau afonydd Angara, Lena, a Nizhnyaya Tunguska. Mae'r oblast yn ffinio gyda Gweriniaeth Buryatia a Gweriniaeth Tuva i'r de, gyda Krasnoyarsk Krai i'r gorllewin, gyda Gweriniaeth Sakha i'r gogledd-ddwyrain, a gyda Zabaykalsky Krai i'r dwyrain.

Sefydlwyd yr oblast yn 1937 fel un o ardaloedd yr Undeb Sofietaidd. Erbyn hyn mae'n rhan o Ddosbarth Ffederal Siberia.

Gorwedd Llyn Baikal, sy'n enwog am ei amgylchedd unigryw, yn ne-ddwyrain yr oblast.

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Coat of arms of Irkutsk Oblast.png Eginyn erthygl sydd uchod am Oblast Irkutsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.