Afon Lena
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Siberia, Rwsia yw Afon Lena (Rwseg: Лена; Yakuteg: Улахан-Юрях, Ulachan-Jurjach). Mae tua 4400 km o hyd, ac felly'n ddegfed ynhlith afonydd y byd o ran hyd.
Ceir tarddle'r afon yn Llyn Baikal, ac mae'n llifo tua'r gogledd i aberu ym Môr Laptev. Ymuna afon Viljuj, y fwyaf o'i llednentydd, â hi ger Sangar. Ger yr aber, mae'r afon yn ffurfio delta sy'n un o'r mwyaf yn y byd, yn fwy na delta afon Nîl. Y ddinas fwyaf ar yr afon yw Yakutsk.