Yakutsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Stryd Kulakovsky, gyda'r Brifysgol ar y chwith

Dinas yn Nwyrain Pell Rwsia yw Yakutsk (Rwseg: Якутск). Hi yw prifddinas gweriniaeth Sacha, gyda phoblogaeth o 210,642 yn 2002. Saif ar afon Lena.

Saif y ddinas tua 4,900 km o Moscfa. Ceir amrywiaeth enfawr yn yr hinsawdd rhwng haf a gaeaf yma, gyda chyfartaledd o 18.8°C ym mis Gorffennaf ond -43.2°C ym mis Ionawr. Mae'r gaeafau yn oerach yma nag yn unrhyw ddinas fawr arall yn y byd.