Natalie Portman
.
Mae Natalie Portman (Hebraeg: נטלי פורטמן; ganed Natalie Hershlag 9 Mehefin, 1981) yn actores Americanaidd-Iddewig. Dechreuodd Portman ei gyrfa actio yn ystod y 1990au, gan wrthod y cyfle i fod yn fodel pan yn blentyn er mwyn bod yn actores. Cafodd ei rôl gyntaf yn y ffilm annibynnol Léon (1994). Daeth i adnabyddiaeth pan gafodd ran Padmé Amidala yn y ffilmiau Star Wars. Dywedodd Portman unwaith y byddai'n well ganddi fod yn ddeallus nag un seren ym myd ffilmiau er iddi gwblhau ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Harvard tra'r oedd yn gweithio ar y ffilmiau Star Wars.
Yn 2001, perfformiodd Portman mewn cynhyrchiad Theatr Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd o "The Seagull" gan Chekhov, pan berfformiodd gyda Meryl Streep, Kevin Kline, a Philip Seymour Hoffman. Yn 2005, derbyniodd Portman Wobr Golden Globe fel yr Actores Gefnogol Orau yn y ddrama Closer.
[golygu] Ffilmograffiaeth
[golygu] Ffilm and theledu
| Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1994 | Léon (aka The Professional) | Mathilda | |
| Developing | Nina | 23-minute short film | |
| 1995 | Heat | Lauren Gustafson | |
| 1996 | Beautiful Girls | Marty | |
| Everyone Says I Love You | Laura Dandridge | ||
| Mars Attacks! | Taffy Dale | ||
| 1999 | Star Wars Episode I: The Phantom Menace | Padmé Amidala | |
| Anywhere but Here | Ann August | ||
| 2000 | Where the Heart Is | Novalee Nation | |
| 2001 | Zoolander | Ei hun | cameo |
| 2002 | Star Wars Episode II: Attack of the Clones | Padmé Amidala | |
| 2003 | Cold Mountain | Sara | |
| 2004 | Garden State | Samantha | |
| Closer | Alice Ayres/Jane Jones | Gwobr Golden Globe am yr Actores Gefnogol Orau – Ffilm Enwebwyd — Gwobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau Enwebwyd — Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol |
|
| 2005 | Star Wars Episode III: Revenge of the Sith | Padmé Amidala | |
| Free Zone | Rebecca | rhyddhad cyfyngedig yn yr Unol Daleithiau yn Ebrill 2006 | |
| 2006 | V for Vendetta | Evey Hammond | |
| Paris, je t'aime | Francine | ||
| Goya's Ghosts | Ines Bilbatua & Alicia | ||
| 2007 | My Blueberry Nights | Leslie | |
| The Darjeeling Limited | Cyn-gariad Jack | ||
| Hotel Chevalier | Cyn-gariad Jack | Darn byr 13-munud i gyd-fynd a The Darjeeling Limited | |
| Mr. Magorium's Wonder Emporium | Molly Mahoney | ||
| 2008 | The Other Boleyn Girl | Anne Boleyn | |
| 2009 | New York, I Love You | Rifka | yn aros i'w rhyddhau |
| Brothers | Grace Cahill | ôl-gynhyrchu | |
| 17 Photos of Isabel | Emilia Greenleaf | ffilmio |
[golygu] Theatr
- Ruthless!! (1994)
- The Diary of Anne Frank (1997)
- The Seagull (2001)