Philip Seymour Hoffman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Philip Seymour Hoffman
PhilipSeymourHoffmanAAFeb09.jpg
Hoffman yn 81fed seremoni wobrwyo yr Academi ym mis Chwefror, 2009
Geni 23 Gorffennaf, 1967
Rochester, Efrog Newydd,
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Enwog am Charlie Wilson's War, Doubt, Capote
Galwedigaeth Actor, Cyfarwyddwr theatr

Mae Philip Seymour Hoffman (ganed 23 Gorffennaf, 1967) yn actor a cyfarwyddwr ffilm a llwyfan Americanaidd.

Dechreuodd Hoffman ei yrfa actio proffesiynol ar y teledu ym 1991 a'r flwyddyn olynol dechreuodd actio mewn ffilmiau. Daeth yn adnabyddus yn sgîl yr ystod eang o gymeriadau a actiodd mewn rôl gefnogol mewn ffilmiau, a bu'n llwyddiannus ym myd y theatr hefyd. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am ei berfformiad yn True West (2000) a Long Day's Journey into Night (2003).

Enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl, Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm Ddrama a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Prif Rôl am ei berfformiad fel Truman Capote yn Capote (2005). Canolmolwyd ei weithiau nesaf hefyd sef The Savages (2007) a Charlie Wilson's War (2007), ac fe'i enwebwyd am nifer o wobrau actio am ei waith yn y ffilm Doubt (2008).

Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill