Mithraeum Caernarfon
Gweddillion teml Rufeinig i'r duw Mithras yw Mithraeum Caernarfon. Saif 137 metr i'r gogledd-ddwyrain o gaer Rufeinig Segontium, ar gyrion Caernarfon, Gwynedd. Dyma'r unig esiampl o Mithraeum yng Nghymru.
Cafwyd hyd i'r gweddillion trwy ddamwain ar 2 Ebrill 1958, a chloddiwyd y safle gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru dan George Boon ym mis Awst yr un flwyddyn.[1] Roedd y safle wedi ei niweidio gan ffos oedd wedi ei chloddio drwy ran o gyntedd yr adeilad, ond gallwyd cloddio'r rhan fwyaf o'r safle'n llwyddiannus.
Credir fod yr adeilad cyntaf, 14.6m wrth 6.5m, wedi ei adeiladu yn y 3edd ganrif, yn y cyfnod pan oedd Cohors I Sunicorum yn ffurfio garsiwn y gaer. Roedd cyntedd (narthex) ar yr ochr ddeheuol, yna'r deml ei hun, gyda dwy res o feinciau bob ochr i ardal gyda llawr is yn y canol. Ymddengys i'r deml gael ei hail-adeiladu nifer o weithiau, ac na chafodd ei defnyddio wedi diwedd y 3edd ganrif.
Llyfryddiaeth [golygu]
G.C. Boon 1960. A Temple of Mithras at Caernarvon-Segontium. Yn Archaeologia Cambrensis 1960. tt136-178.
Nodiadau [golygu]
- ↑ G.C. Boon 1960. A Temple of Mithras at Caernarvon-Segontium. Yn Archaeologia Cambrensis 1960. tt136-178.