Mithraeum
Oddi ar Wicipedia
Mithraeum yn Ostia yn yr Eidal
Mithraeum yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer teml a ddefnyddid ar gyfer crefydd neu gwlt Mithras yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Ceir olion yr adeiladau yma mewn nifer o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth. Ymddengys fod y grefydd yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr, ac mae llawer o'r Mithraea yn agos at wersylloedd milerol. Ogofâu naturiol oedd y Mithraea cyntaf, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Cyfeiria hyn at fytholeg Mithras, y dywedir iddo ladd y tarw cyntefig mewn ogof. Llun o Mithras yn lladd y tarw oedd canolbwynt y temlau
Ceir un Mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.
Cysylltiad allanol [golygu]
- Rhestr o Fithraea o Mithraeum.eu (Saesneg/Ffrangeg/Sbaeneg)