Miri Mawr
Miri Mawr | |
---|---|
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | HTV Cymru |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1972 – 1978 |
Cyfres deledu Cymraeg i blant yn yr 1970au oedd Miri Mawr. Fe'i cynhyrchwyd a'i darlledwyd ar sianel HTV Cymru yn yr adeg cyn sefydlu S4C. Byddai'n cael ei darlledu ynghanol amserlen rhaglenni Saesneg HTV - unig sianel fasnachol y cyfnod. Ail-ddarlledwyd rhai cyfresi ar S4C yn yr 1980au cynnar a'r 1990au.
Arddull[golygu | golygu cod]
Roedd y rhaglen yn llenwi rhyw 30 munud yn yr amserlen (gan gynnwys toriad hysbysebion). Fformat y rhaglen oedd bod amrywiaeth o gymeriadau annwyl, doniol a drygionus yn trafod thema arbennig, er enghraifft 'arlunio' a bod yna wedyn eitemau ffilm wedi eu rhag-recordio ar y thema hynny. Roedd y rhaglen felly yn ceisio cyfuno natur hwyliog i apelio at blant ysgol cynradd a chyn-arddegau ond gan gynnwys elfen addysgiadol a fu'n rhan anhepgor o gynnwys gymaint o raglenni plant y cyfnod. Roedd y cymeriadau wedi eu lleoli mewn 'ogof' a daeth teitlau y rhaglen yn adnabyddus wrth i graig hollti yn ddwy i agor ar panorama o'r criw llon a checrus yn trafod thema'r rhaglen.
Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys fersiwn Cymraeg o'r cartŵn Calimero.
Thema'r gyfres oedd dôn y Blue Bottle[1] gan The Frank Barcley Group.
Cymeriadau[golygu | golygu cod]
Daeth nifer o'r cymeriadau'n boblogaidd iawn ac yn adnabyddus ymysg plant. Byddant wedyn yn cefnogi ymgyrchoedd poblogaidd torfol gan fudiadau fel Urdd Gobaith Cymru.
Rhoddodd y gyfres hefyd gyfle i nifer o action ifanc y cyfnod feithrin profiad ac ennill bywoliaeth. Ymysg yr actorion adnabyddus a aeth ymlaen i fod yn enwau cyfarwydd ar lwyfannau a theledu Cymru.
- "Miss Blodyn Tatws" - Robin Griffith[2] a aeth ymlaen i chwarae rhan 'Y Barwn Coch' yng nghyfres arall, hwyrach i blant, Siop Siafins.
- "Llewelyn Fawr" - John Ogwen
- "Caleb y Twrch" - Dafydd Hywel
- "Daniel Dŵr" - John Pierce Jones
- "Dyn Creu" - Dewi 'Pws' Morris
- "Mr Parry" - Gwyn Parry
Cynhyrchydd y gyfres oedd Peter Elias Jones[3][4] yn wreiddiol o Langefni, Ynys Môn a gynhyrchodd sawl cyfres boblogaidd arall i blant gan gynnwys Ffalabalam, Ibiza, Ibiza a Jacpot. Sgriptiwyd y rhaglen gan Clive Roberts a John Pierce Jones.
Marchnata[golygu | golygu cod]
Cymaint oedd poblogrwydd y gyfres fel y cynhyrchwyd gludyddion gyda wynebau'r cymeriadau.
Yn 1974 rhyddhawyd record sengl 7" Miri Mawr, "Byta Allan" gan Recordiau Sain[5]. Cyhoeddwyd y llyfr Miri mawr i blant Cymru yn 1972 ac Ail lyfr, Miri Mawr yn 1974.
Dolenni[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=xDDOsqCgI8k
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40985752
- ↑ http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8690000/newsid_8693400/8693441.stm
- ↑ https://eisteddfod.cymru/digwyddiadau/dydd/8-awst-2017/aduniad-miri-mawr-i-ddathlu-cyfraniad-y-cynhyrchydd-peter-elias-jones[dolen marw]
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=Q_STa8s6dc8