Meir Kahane

Oddi ar Wicipedia
Meir Kahane
Meir Kahane ym 1984.
Ganwyd1 Awst 1932 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 1990 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Israel Edit this on Wikidata
Alma mater
  • New York Law School
  • Prifysgol Efrog Newydd
  • Mir yeshiva (Brooklyn)
  • Yeshivah of Flatbush
  • Marsha Stern Talmudical Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, rabi, newyddiadurwr, kahanist Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Knesset, rosh yeshiva Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolKach Edit this on Wikidata
PlantBinyamin Ze'ev Kahane, Baruch Kahane Edit this on Wikidata

Gwleidydd a rabi Americanaidd-Israelaidd oedd Meir Kahane (1 Awst 19325 Tachwedd 1990).

Ganed Martin David Kahane ym mwrdeistref Brooklyn yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Derbyniodd radd baglor yn y celfyddydau o Goleg Brooklyn ym 1954 a gradd baglor yn y gyfraith o Ysgol Gyfraith Efrog Newydd ym 1956, ac ym 1957 enillodd radd meistr mewn materion rhyngwladol o Brifysgol Efrog Newydd. Ym 1957 hefyd cafodd ei ordeinio'n rabi Uniongred wedi iddo astudio yn y Mirrer Yeshiva yn Brooklyn, a mabwysiadodd yr enw Meir.

Ym 1968 sefydlodd y Jewish Defense League, gyda'r nod o amddiffyn Americanwyr Iddewig yn erbyn gwrth-Semitiaeth. Ymfudodd Kahane i Israel ym 1971 a sefydlodd y blaid adain-dde Kach, a chanddi ideoleg yn seiliedig ar ei syniadaeth (Kahaniaeth): Seioniaeth grefyddol a thra-chenedlaetholdeb Israelaidd. Ymgyrchodd dros osod y gyfraith Iddewig, halacha, yn sail i'r wladwriaeth, a thros fwrw'r Arabiaid allan o Israel a phob tiriogaeth dan feddiannaeth lluoedd Israel. Etholwyd Kahane i'r Knesset ym 1984. Pasiwyd deddf dros dro i alluogi'r pwyllgor etholiadol i wahardd pleidiau "hiliol" a "gwrth-ddemocrataidd", a chafodd Kach ei atal rhag ymgeisio am seddi yn etholiadau'r Knesset ym 1989.

Ar 5 Tachwedd 1990, wedi i Kahane roi araith mewn gwesty ym Manhattan, fe'i saethwyd yn farw gan El Sayyid Nosair, eithafwr Islamaidd a aned yn yr Aifft, a saethodd ac anafodd Swyddog Heddlu'r Post yn y stryd cyn iddo gael ei arestio.[1] Er yr oedd nifer o dystion i'r llofruddiaeth, cafwyd Nosair yn ddieuog; un o'r rhesymau oedd diffyg awtopsi, ar gais teulu Kahane. Fodd bynnag, fe'i cafwyd yn euog o saethu'r plismon a throseddau eraill, a'i dedfrydwyd i garchar am 22 mlynedd.[2] Yn ddiweddarach, cyfaddedfodd Nosair ei fod yn gyfrifol am ladd Kahane.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Verena Dobnik, "Israeli Militant Meir Kahane Shot to Death in New York Hotel", Associated Press (6 Tachwedd 1990). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Chwefror 2023.
  2. (Saesneg) Ronald Sullivan, "Judge Gives Maximum Term in Kahane Case", The New York Times (30 Ionawr 1992). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Ionawr 2013.
  3. (Saesneg) Gil Stern Stern Shefler, "'Sharon was Kahane killer's target'", The Jerusalem Post (15 Awst 2010). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Chwefror 2017.