Meddyglyn

Oddi ar Wicipedia
Meddyglyn
Llawysgrifen Thomas Wiliems o Drefriw (1605) lle mae'n crybwyll meddyglyn
Enghraifft o'r canlynoldiod feddwol Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmedd, sinsir, sbeis, te, cneuen yr India, croen oren, sinamon Edit this on Wikidata

Math o fedd traddodiadol-Gymreig yw meddyglyn (benthyciwyd y gair Saesneg "metheglin" o'r gair hwn) a wneir o fedd yn bennaf gan ychwanegu sunsur, sbeis, te, nytmeg, croen oren, sinamon neu fanila. Mae'n hen ddiod ac yn cael ei yfed ar wyliau, gan ymwelwyr y gwaseila er enghraifft. Daw o'r gair "meddyg" a "llyn" (sef 'diod'), am ei fod yn dda at yr anwyd.

Yn ôl y meddyg, Thomas Wiliems o Drefriw yn ei eiriadur (1605) mae'n 'ddiod iachus o fedd a sbeisys, ac iachach na gwin'. Credai mai meddyg o'r enw Sylfester (14g?) a'i creodd yn gyntaf; mae carreg fedd Sylfester yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. [1]

Yn 2016 ceisiwyd ail-greu meddyglyn o'r Oesoedd Canol a wnaed gyda nifer o berlysiau er mwyn creu mêl arbennig o rinweddol fel meddygaeth amgen i ymladd yn erbyn bacteria.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr Athro Ann Parry Owen; adalwyd 17 Ionawr 2024.
  2. itv.com; adalwyd 13 Gorffennaf 2016
Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod alcoholaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.