Mahmoud Ahmadinejad
| Mahmoud Ahmadinejad محمود احمدینژاد |
|
|
|
|
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 3 Awst 2005 |
|
| Is-Arlywydd(ion) | Parviz Davoodi |
|---|---|
| Rhagflaenydd | Mohammad Khatami |
|
|
|
| Geni | Hydref 28, 1956 Aradan, Semnān, Iran |
| Crefydd | Shi'a Islam |
Mahmoud Ahmadinejad (Persieg: محمود احمدی نژاد ) (neu Mahmud Ahmadinajad/ Ahmadinezhad / Ahmadi-Nejad / Ahmadi Nejad / Ahmady Nejad)(ganwyd 28 Hydref, 1956) yw arlywydd Iran. Cafodd ei eni yn Garmser, ger Tehran. Mae'n ddyn dysgedig ac fe gafodd ddoethuriaeth (PhD) ym Mhrifysgol Technoleg a Gwyddoniaeth Iran yn 1997; gradd mewn peirianneg sifil. Bu hefyd yn darlithio yno o 1989 ymlaen. Mae'n briod ac mae ganddo dau fab a merch.
Cymerodd drosodd ar ôl Mohammad Khatami fel chweched arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2005.
O ran ei wleidyddiaeth mae'n geidwadwr ar un ystyr ac eto'n awyddus i weld rhai newidiadau yn Iran, yn arbennig ym myd addysg wyddonol a datblygiad economaidd.
Mae'n adnabyddus am ei feirniadaeth hallt o lywodraeth George W. Bush yn yr Unol Daleithiau ac Israel. Yn ddiweddar mae Ahmadinejad wedi denu sylw am ei barodrwydd i barhau â rhaglen ynni niwclear Iran yn wyneb comdemniad y Gorllewin, ac yn neilltuol America. Yn ogystal a hyn mae wedi datgan ei fod yn dymuno gweld Israel yn cael ei dileu o fap y byd ac wedi mynegi ei farn nad oedd yr Holocost hanner mor eang ag a dybir yn gyffredinol.
Cynnwys |
[golygu] Sancsiynau
Ar 09 Mehefin 2010 fe basiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig y dylid gosod sancsiynau ar Iran. Cytunodd Rwsia a Tseina gyda'r mesur ar ôl cryn bwysau gan yr Unol Daleithiau; ataliodd Libanus a phleidleisiodd Twrci a Brasil yn erbyn y cynnig. Dyma bedwerydd rownd o sancsiynau gan y C.U. ers 2006 a grewyd gyda'r bwriad o atal Iran rhag puro Iwraniwm. Dywedodd yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad, "The ressolutions you issue are like a used handkerchief which should be thrown in the bin."[1]
[golygu] Dolenni allanol
- (Perseg) Gwefan swyddogol Arlywydd Iran
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Iran
- (Perseg) Blog yr Arlywydd Ahmadinejad
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ The Times, 10 Mehefin 2010.
| Rhagflaenydd: Mohammad Khatami |
Arlywydd Iran 3 Awst 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |