Maen Madog

Oddi ar Wicipedia
Maen Madog
Mathmaen hir, carreg arysgrifenedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.830162°N 3.570566°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR018 Edit this on Wikidata

Carreg Gristionogol gynnar gydag arysgrif Ladin arni yw Maen Madog, sy'n sefyll ger llwybr hen ffordd Rufeinig ger Ystradfellte, de Powys. cyfeiriad grid SN918157

Maen Madog. Gwelir yr arysgrif Ladin ar y wyneb agosaf.

Disgrifiad a hanes[golygu | golygu cod]

Colofn dal denau o hen dywodfaen coch yw Maen Madog. Mae'n sefyll wrth ymyl ffordd Rufeinig a adnabyddir yn lleol fel "Sarn Helen". Ar ei ymyl de-orllewinol ceir arysgrif Ladin wedi'i cherfio ar ei hyd sy'n darllen:

DERVAC—FILIUS
IUST—(H)IC IACIT

Sef:

Carreg Dervacus mab Justus.
Yma mae'n gorwedd.

Digon amrwd yw'r gwaith cerfio gyda rhai llythrennau wedi eu gosod o'r chwith, sy'n awgrymu fod y saer maen yn anghyfarwydd ag ysgrifen Ladin.

Mae'n debyg mai cofgolofn bersonol ydyw, yn dyddio o rywbryd yn y cyfnod is-Rufeinig (ceir gwersyll Rhufeinig gerllaw) neu'r Oesoedd Canol Cynnar pan roedd y rhan yma o'r wlad yn rhan o Deyrnas Brycheiniog.

Cafodd y garreg ei symud tua 5 medr o'i safle gwreiddiol yn y 19g a'i gosod ar blatfform o gerrig. Ni chafwyd bedd Dervacus ac mae'n bosibl felly fod y garreg yn gofgolofn yn unig yn hytrach na beddfaen.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]