Maen Llia (carnedd)

Oddi ar Wicipedia
Maen Llia
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaescar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR163 Edit this on Wikidata

Carnedd gylchog o Oes yr Efydd ydy carnedd Maen Llia, Maescar, Powys; cyfeiriad grid SN923189. Gerllaw ceir Maen Llia, maen hir gydag arysgrif gynnar arno.

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: BR163.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.