Lynn Bowles

Oddi ar Wicipedia
Lynn Bowles
Ganwyd27 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Darlledwraig o Gymraes yw Lynn Bowles (ganwyd 27 Ionawr 1963) a chyn-ohebydd traffig ar gyfer BBC Radio.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bowles yn Sblot, Caerdydd[1][2] a hi yw'r ieuengaf o dri brawd a chwaer.[3] Roedd ei thad, Cliff, yn beiriannydd morol; ganed ei mam, Josephine, yn Nhrefynwy ond symudodd i Dredelerch yng Nghaerdydd.[3]

Mynychodd Ysgol Sant Hilda, ysgol breswyl yn Somerset, cyn symud i Ysgol Uwchradd Llanisien pan oedd y teulu'n byw yn Rhydri. Aeth ymlaen i'r brifysgol yn Coventry.[3]

Gyrfa ddarlledu[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael y brifysgol, gweithiodd Bowles yn New Orleans[3] ar gyfer gorsaf newyddion teledu. Dychwelodd i'r DU yn gynnar yn y 1990au ond cafodd hi'n anodd i ddod o hyd i waith. Yn y pen draw, cafodd swydd fel gohebydd traffig gyda LBC, ar sioe Richard Littlejohn.[3] Yna ymunodd â rhaglen John Inverdale Nationwide ar BBC Radio 5 Live lle arhosodd am wyth mlynedd cyn symud i BBC Radio 2.[3][4]

O ddydd Sadwrn 9 Mehefin 2012, ac am wyth wythnos yn olynol, cyflwynodd Bowles ei sioe ei hun ar BBC Radio Wales, yn cynnwys gwesteion fel Ken Bruce a gyflwynodd y sioe BBC Radio 2 lle roedd hi'n gweithio fel gohebydd teithio.[5]

Ers 2 Tachwedd 2014, mae hi wedi cyflwyno sioe wythnosol prynhawn Sul ar BBC Radio Wales.[6]

Ar 16 Mawrth 2018, yn ystod Sioe Ken Bruce, cyhoeddodd Bowles y byddai'n gadael BBC Radio 2, ar ôl 18 mlynedd gyda'r orsaf. Ei diwrnod olaf oedd 29 Mawrth 2018. Mae Bowles yn parhau gyda'i sioe ar Radio Wales.[7]

Gweithgareddau personol ac elusennol[golygu | golygu cod]

Dysgodd Bowles i yrru mewn Land Rover a daeth yn masgot i'r car ar ôl cystadlu yn Her Macmillan 4x4 UK yn 2004 [8] a chyd-gyflwyno Sioe Land Rover y Heritage Motor Centre [9] o 2005 i 2010.

Yn rhifyn Awst 2013 o gylchgrawn rhyngwladol Land Rover Owner, roedd Bowles yn golofnydd gwestai 'am fis yn unig' [10] yn trafod ei phrofiadau plentyndod mewn Land Rovers a'i hyfforddiant ar gyfer y Tlws Camel.

Mae'n llysgennad i Bobath Therapi Plant Cymru, elusen gofrestredig yng Nghaerdydd sy'n darparu therapi Bobath arbenigol i blant o bob cwr o Gymru sydd â pharlys yr ymennydd. Yn Wythnos Plant mewn Angen Tachwedd 2007, cafodd profiad "gall arian ddim ei brynu" ei roi ar ocsiwn oedd yn cynnwys gwario diwrnod gyda hi yn ei Land Rover a phrofiadau modurol eraill dan faner 'Petrolheads'. Cododd yr eitem £22,000 i'r elusen.[11]

O fis Mehefin 2009 roedd Bowles yn byw yn Wimbledon ond yn teithio yn ôl yn rheolaidd i gartref ei theulu yn Rhydri ger Caerffili.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Radio 2 Bowles' nickname was 'silliness'". 27 March 2018. Cyrchwyd 30 March 2018.
  2. "Lynn Bowles". BBC Radio 2. BBC. Cyrchwyd 7 May 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Whitfield, Lydia (15 June 2009). "Talking traffic with the 'Totty from Splotty'". South Wales Echo / The Free Library. Fairlex, Inc. Cyrchwyd 7 May 2013.
  4. "Lynn Bowles". JLA. Cyrchwyd 7 May 2013.
  5. "BBC Radio Wales – Lynn Bowles – Episode guide". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2014-07-04.
  6. Kirstie McCrum (24 October 2014). "Radio 2's 'Totty from Splotty' Lynne Bowles gets her own radio show and says: 'I've been trained by some of the best in the business to talk rubbish'". walesonline.co.uk. Cyrchwyd 9 June 2016.
  7. "Lynn Bowles: 'I'm leaving Radio 2' says travel presenter". BBC News. 16 March 2018. Cyrchwyd 16 March 2018.
  8. [1] Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  9. [2] Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  10. "WHAT'S IN THE AUGUST 2013 ISSUE OF LRO | LRO.com UK". Lro.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-26. Cyrchwyd 2014-07-04.
  11. "Radio 2 – Children in Need 2007 – Wogan's Auction". BBC. Cyrchwyd 2014-07-04.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]