Llyn Hir (Ceredigion)

Oddi ar Wicipedia
Llyn Hir
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.293603°N 3.776353°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Hir. Cyfeirnod AO: SN789676. Mae'n un o'r llynnoedd uchel a elwir yn "llynnoedd (neu byllau) Teifi" am eu bod yn ffurfio darddle afon Teifi.

Fel y mae'r enw yn awgrymu, llyn o siâp hir, cul ydyw. Mae'n gorwedd tua 3.5 milltir i'r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid ym mryniau Elenydd, ger y ffin rhwng Powys a Cheredigion. Mae'n gorwedd ar rosdir gwlybog rhwng dau lyn mwy sylweddol, sef Llyn Teifi, i'r gorllewin, a Llyn Egnant i'r dwyrain. I'r de ceir Llyn y Gorlan a Llyn Bach. Mae'r llynnoedd hyn yn gorwedd yn agos iawn i'w gilydd. Defnyddir y dŵr a geir ohonynt fel cyflenwad dŵr i'r rhan yma o Geredigion.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: