Llyn Bodlyn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Bodlyn
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.796542°N 4.005918°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6480023900 Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map
Llyn Bodlyn yn y Rhinogydd.

Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Bodlyn. Saif i'r gorllewin o gopa Diffwys, i'r de-orllewin o Y Llethr ac i'r dwyrain o gopa Moelfre. Mae ganddo arwynebedd o 42 acer ac mae 1,248 troedfedd uwch lefel y môr. Ar ochr ddeheuol y llyn mae craig serth, Craig Bodlyn.

Mae nifer o nentydd yn llifo i'r llyn, gan gynnwys un o Lyn Dulyn uwchben, ac mae Afon Ysgethin yn llifo ohono i gyrraedd y môr gerllaw Tal-y-bont. Ceir torgochiaid yn y llyn; un o dri llyn yng Nghymru sy'n parhau i fod a phoblogaeth naturiol o'r pysgodyn yma, gyda Llyn Cwellyn a Llyn Padarn. Yn ôl un chwedl, rhoddodd y Tylwyth Teg hwy yn y llun, fel gwobr i fugail oedd yn byw gerllaw am eu helpu, a dysgasant i'r bugail sut i'w dal.

Adeiladwyd argae yma yn 1894 i droi'r llyn yn gronfa ddŵr, ac mae'n parhau i gyflenwi dŵr i dref Abermaw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: