Y Llethr
| Y Llethr (Rhinogydd) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Yr olygfa o gopa Y Llethr tua'r gogledd: Rhinog Fach a Llyn Hywel. |
| Uchder (m) | 756 |
| Uchder (tr) | 2480 |
| Amlygrwydd (m) | 561 |
| Lleoliad | rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala |
| Map topograffig | Landranger 124; Explorer 18W |
| Cyfesurynnau OS | SH661257 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Y Llethr yw copa uchaf y Rhinogydd yng ngogledd Cymru; cyfeiriad grid SH661257. Saif i'r de o Rhinog Fach, gyda Llyn Hywel rhyngddynt, ac i'r gogledd o Diffwys dros Grib-y-rhiw. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 195metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir dringo'r mynydd o'r gorllewin, gan gychwyn yng Nghwm Nantcol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddringo i Fwlch Drws Ardudwy ac i gopa Rhinog Fach yn gyntaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 756 metr (2480 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Mawrth 2010.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'