Lily Allen
| Lily Allen | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Lily Rose Beatrice Allen |
| Ganwyd |
Chwefror 5, 1985 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | pop, |
| Galwedigaeth(au) | Cantores, cyfansoddwraig, cyflwynydd teledu |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 2005 - presennol |
| Label(i) recordio | Regal Recordings, Capitol Records |
| Gwefan | www.lilyallenmusic.com |
Mae Lily Rose Beatrice Allen (ganed 2 Mai 1985) yn gantores-cyfansoddwraig pop Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon "Smile", "LDN", "Littlest Things", "Alfie", ei fersiwn hi o "Oh My God", "The Fear" a'i harddull "Mockney". Merch yr actor, digrifwr a'r cerddor Keith Allen a'r cynhyrchydd ffilm Alison Owen ydyw. O'r 12fed o Chwefror 2008, cyflwynodd Allen ei sioe ei hun ar BBC Three o'r enw Lily Allen and Friends.
Ei bywyd cynnar [golygu]
Roedd Allen wedi cael ei geni yn Hammersmith, Gorllewin Llundain, yn ferch i'r digrifwr o Cymru a Actor Keith Allen ar cyfarwyddwr ffilm Alison Owen. Symudodd ei theulu i Ogledd Llundain i fwrdeisdref Islington. Mae ganddi chwaer hŷn, Sarah; a brawd iau, Alfie Owen-Allen (testun ei chân 'Alfie'); a chwaer iau Rebecca. Mae ganddi nifer o hanner-brodyr a chwiorydd. Am gyfnod, bu Allen yn byw gyda'r digrifwr Harry Enfield tra'r oedd ei mam ac yntai'n canlyn. Mae hefyd yn ferch-bedydd i leisydd y Wild Colonials, Angela McCluskey. Cyfeirir at y canwr a gitarydd Joe Strummer o fand The Clash fel tad-bedydd iddi; er nad yw hyn yn llythrennol wir, roedd Strummer yn glos i Allen. Dywed Allen fod ganddi atgofion melys o'r wythnos a hanner y treuliodd y ddau ohonynt gyda'i gilydd yng Ngŵyl Glastonbury.
Gwobrau ac enwebiadau [golygu]
| Blwyddyn | Gwobr | Categori | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| 2006 | Q Awards | Act Newydd Gorau | Enwebwyd |
| Digital Music Awards | Artist Pop Gorau | Enillodd | |
| 2007 | Gwobrau'r BRITs | Artist Benywaidd Unigol Gorau | Enwebwyd |
| Albwm Prydeinig Mastercard (Alright, Still) | Enwebwyd | ||
| Act Newydd Gorau | Enwebwyd | ||
| Gwobrau Fideo Cerddorol MTV | Artist Newydd Gorau | Enwebwyd | |
| Gwobrau NME | Dillad Gwaethaf | Enillodd | |
| 2008 | Gwobrau'r Grammy | Albwm Cerddoriaeth Gwahanol Gorau (Alright, Still) | Enwebwyd |
| Gwobrau Ffasiwn y Stryd Fawr | Seren wedi gwisgo orau | Enwebwyd | |
| Gwobrau BMI | ("Smile") | Enillodd |