Keith Allen

Oddi ar Wicipedia
Keith Allen
GanwydKeith howell charles Allen Edit this on Wikidata
2 Medi 1953 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Brentwood Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr ffilm, cerddor, ysgrifennwr, cyfansoddwr caneuon, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodAlison Owen, Nira Park Edit this on Wikidata
PartnerJulia Sawalha, Tamzin Malleson Edit this on Wikidata
PlantAlfie Allen, Lily Allen Edit this on Wikidata

Mae Keith Philip George Allen (ganed 2 Medi 1953) yn actor, digrifwr, canwr-cyfansoddwr ac awdur Seisnig a aned yng Nghymru. Ef hefyd yw tad y gantores Lily Allen ac mae ef wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu, ffilmiau a cherddoriaeth.

Ei yrfa actio[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Allen mewn nifer o ffilmiau a wnaed gan The Comic Strip Presents... (yn fwyaf amlwg "The Bullshitters", a oedd yn barodi o The Professionals) ar Sianel 4 ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddo ddod yn enwog am ei act yn y Comedy Store ym 1979. Yn frawd i'r digrifwr a'r cyfarwyddwr ffilm Kevin Allen, mae Keith Allen wedi chwarae rhannau difrifol a chomedi, gan chwarae rhan Brian Dennehy unwaith.

Ymddangosodd yn y ffilm gomedi dywyll, Twin Town, addasiad Sianel 4 o A Very British Coup a chwaraeodd ran y tenant sy'n marw ar ddechrau ffilm Danny Boyle, Shallow Grave (1994). Yn yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad y BBC o Martin Chuzzlewit. Cafodd ran hefyd yn un o ffilmiau eraill Danny Boyle, yn chwarae rhan deliwr cyffuriau yn y ffilm Trainspotting (1996).

Teledu[golygu | golygu cod]

  • A Very British Coup (1988)
  • Making Out (1989-90)
  • Faith (1994)
  • Martin Chuzzlewit (1994)
  • The Young Person's Guide to Becoming a Rock Star (1998)
  • Adrian Mole: The Cappuccino Years (2001)
  • Robin Hood (2006-2009)
  • The Runaway (2011)
  • The Body Farm (2011)
  • My Mad Fat Diary (2014-2015)

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

  • The Young Americans (1993)
  • Twin Town (1997)
  • Rancid Aluminium (2000)
  • My Wife Is an Actress (2001)
  • De-Lovely (2004)
  • The Magnificent Eleven (2011)
  • Eddie the Eagle (2016)
  • Kingsman: The Golden Circle (2017)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.