Cotswolds
Oddi ar Wicipedia
Ardal o fryniau yng ngorllewin canolbarth Lloegr yw'r Cotswolds, y cyfeirir ati weithiau fel 'Calon Lloegr' (Saesneg: "Heart of England"), sy'n mesur tua 25 milltir (40 km) wrth 90 milltir (145 km). Mae wedi cael ei dynodi yn Ardal Harddwch Naturiol y Cotswold. Y pwynt uchaf ym mryniau'r Cotswolds yw Cleeve Hill (1,083 tr., 330 m), 2.5 milltir (4 km) i'r gogledd o Cheltenham.
Gorwedd y Cotswolds yn swyddi Caerloyw a Rhydychen, ond mae'n cynnwys hefyd rhannau o Wiltshire, Gwlad yr Haf, Swydd Gaerwrangon a Swydd Warwick.
Prif drefi [golygu]
- Bourton-on-the-Water
- Broadway, Swydd Gaerfrangon
- Burford
- Chipping Campden
- Chipping Norton
- Cirencester
- Moreton-in-Marsh
- Shipston-on-Stour
- Stow-on-the-Wold
- Stroud
- Tetbury
- Winchcombe
- Wotton-under-Edge
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Saesneg) (Bwrdd Croeso y Cotswolds)
- (Saesneg) Cotswolds Area of Outstanding Natural Beauty
- (Saesneg) Bwrdd Cadwraeth y Cotswolds