Lilly Becher

Oddi ar Wicipedia
Lilly Becher
GanwydLilly Korpus Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1901 Edit this on Wikidata
Nürnberg Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1978 Edit this on Wikidata
Dwyrain Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, cofiannydd, gwrthryfelwr milwrol, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Almaen, Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen Edit this on Wikidata
PriodJohannes R. Becher Edit this on Wikidata
Gwobr/auBaner Llafar, Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr Edit this on Wikidata

Awdures Almaenig oedd Lilly Becher (née Korpus; 27 Ionawr 1901 - 20 Medi 1978) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, cofiannydd a gwrthryfelwr milwrol, Comiwnyddol. Ond mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn un o'r awduron gwrth-Natsïaidd cyntaf i gynhyrchu gwaith dogfennol yn ymwneud ag erledigaeth Iddewon yn yr Almaen Natsïaidd yn ystod y 1930au.

Redd Lilly Becher yn wraig i'r awdur nodedig Johannes Becher a chafodd gydnabyddiaeth sylweddol yn Nwyrain yr Almaen fel awdur. Ganed Lilly Korpus yn Nürnberg yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen a bu farw yn Nwyrain Berlin.[1][2][3]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen a Phlaid Undod Sosialaidd yr Almaen.[4]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Astudiodd ym Munich a Heidelberg. Wedi iddi ymuno â Phlaid Gomiwnyddol yr Almaen (KPD) yn 1919, dechreuodd ar yrfa hir fel newyddiadurwr gwleidyddol yn y 1920au, gan weithio i bapur newydd KPD Die Rote Fahne yn 1921 a threfnu adran menywod o'r Blaid Gomiwnyddol ym 1922-1923.

Symudodd i Fienna yn 1933, sef y flwyddyn y daeth Hitler i bwer yn yr Almaen, gan aros yno am flwyddyn cyn symud i weithio i gwmni cyhoeddi Éditions du Carrefour ym Mharis, lle bu'n helpu i gyhoeddi a dogfennu sefyllfa Iddewon yr Almaen o dan y Natsïaid yn Der Gelbe Fleck, un o'r gyfres o fewn y casgliad Éditions du Carrefour yn 1936. Roedd hwn yn un o'r gweithiau dogfen cyntaf o'r fath ar y pwnc. Ysgrifennwyd rhagair y llyfr gan Lion Feuchtwanger.

Ar ôl cyfarfod a phriodi Johannes R. Becher, ffoadur chwyldroadol a chyd-ffoaduriaid rhag y Natsïaid ym Mharis, symudodd y ddau i'r Undeb Sofietaidd, gan fyw yno tan 1945. Ymunodd y ddau â Phwyllgor Cenedlaethol dros Almaen Rydd (Almaeneg: Nationalkomitee Freies Deutschland, neu NKFD) yn dilyn goresgyniad yr Almaen o'r Undeb Sofietaidd. Ond wedi trechu'r Almaen dychwelodd y ddau i Ddwyrain yr Almaen - y rhan a feddiannodd yr Undeb Sofietaidd.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Bwyllgor Cenedlaethol ar gyfer Almaen Rhydd am rai blynyddoedd. [5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Baner Llafar, Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  4. Redaktion Rudolf Olden, Hrsg.: Comité des Delegations Juives, Paris 1934.
  5. Galwedigaeth: https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/. https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/. https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/.