Les Liaisons dangereuses

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darlun i bennod XLIV o argraffiad 1796 Les Liaisons dangereuses

Nofel epistolaidd Ffrangeg enwog a ysfrifenwyd yn 1782 gan y llenor Ffrengig Pierre Choderlos de Laclos (1741-1803) yw Les Liaisons dangereuses. Ystyrir y nofel, sy'n adrodd hanes yr ymryson gwyriedig a nwydus rhwng dau libertin uchelwrol yng nghyfnod Yr Oleuedigaeth Ffrengig (le siècle des Lumières), yn un o weithiau mawr llenyddiaeth Ffrangeg.

Fframwaith y nofel yw cyfres o lythyrau rhwng y ddau brif gymeriad, yr Ardalyddes de Merteuil (Madame de Merteuil) a'r vicomte de Valmont (Valmont), ac eraill, sy'n disgrifio eu hymdrechion i hudo merch ifanc iawn - Cécile de Volanges - i golli ei morwyndod, a hynny er mwyn ennill bet.

Achosodd y nofel gryn sgandal ar y pryd a chafodd ei chamddeall a'i chomdemnio fel ymosodiad ar foes cymdeithas. Ond amddiffynodd Laclos y llyfr. Camfernir y nofel gan rai hyd heddiw am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,

Peut-être ces mêmes Liaisons dangereuses, tant reporchées aujourd'hui par les femmes, sont une preuve assez forte que je me suis beaucoup occupé d'elles. (Efallai'n wir bod y Liaisons dangereuses hynny eu hunain, a feirniadir gymaint gan y merched, yn brawf digon cryf fy mod wedi ymroi llawer i'w hachos.)[1]

Addasiadau modern[golygu]

Ceir sawl ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, yn cynnwys:

  1. 1959 : Les Liaisons dangereuses (film 1959), gan Roger Vadim, sy'n serennu Jeanne Moreau (Madame de Merteuil), Gérard Philipe (Valmont) ac Annette Vadim (Madame de Tourvel) ;
  2. 1988 : Dangerous Liaisons, gan Stephen Frears, sy'n serennu Glenn Close (Madame de Merteuil), John Malkovich (Valmont) a Michelle Pfeiffer (Madame de Tourvel) gyda Uma Thurman (Cécile de Volanges) a Keanu Reeves;
  3. 1989 : Valmont, gan Milos Forman, gyda Colin Firth (Valmont), Annette Bening (Madame de Merteuil) a Meg Tilly (Madame de Tourvel) ;
  4. 1999 : Cruel Intentions, gan Roger Kumble, sy'n gosod y stori ym Manhattan, gyda Ryan Phillippe (Sebastian Valmont), Sarah Michelle Gellar (Kathryn Merteuil) a Reese Witherspoon (Annette Hargrove).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Roger Vailland, Laclos par lui-même (Paris, 1953).