Reese Witherspoon
| Reese Witherspoon | |
|---|---|
Witherspoon yn y Swyddfa Hirgrwn, 25 Mehefin 2009 |
|
| Ganwyd | Laura Jeanne Reese Witherspoon Mawrth 22, 1976 |
| Galwedigaeth | Actores Cynhyrchydd ffilm |
| Gweithgar | 1991–presennol |
| Priod | Ryan Phillippe (m. 1999–2007; 2 o blant) |
Actores Americanaidd a chynhyrchydd ffilm yw Laura Jeanne Reese Witherspoon (ganwyd 22 Mawrth 1976), sy'n cael ei hadnabod yn well fel Reese Witherspoon. Ymddangosodd Witherspoon yn gyntaf fel prif actores yn y ffilm The Man in the Moon ym 1991; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, actiodd yn y ffilm cabl Wildflower. Ym 1996, ymddangosodd Witherspoon yn Freeway a dilynodd y ffilm honno gyda thair ffilm 1998 mawr arall: Overnight Delivery, Pleasantville, a Twilight. Ym 1999, ymddangosodd Witherspoon yn Election, a chafodd enwebiad Glôb Aur o'r herwydd.
Yn 2001, cafodd lwyddiant mawr yn ei gyrfa wrth chwarae rôl "Elle Woods" yn Legally Blonde, ac yn 2002, serennodd yn Sweet Home Alabama, sy'n ei llwyddiant ffilm masnachol mwyaf erbyn hyn. Yn 2003, daeth yn ôl i'r sgrîn fel prif actores a chynhyrchydd gweithredol Legally Blonde 2: Red, White & Blonde. Yn 2005, cafodd Witherspoon sylw byd-eang a chanmoliaeth am ei phortread o June Carter Cash yn Walk the Line. O'r herwydd, cafodd Gwobrau'r Academi, Glôb Aur, BAFTA, a Screen Actors Guild Awards ar gyfer Actores Orau a Phrif Rôl.
Priododd Witherspoon actor Cruel Intentions a chyd-seren Ryan Phillippe ym 1999; mae dau o blant ganddynt, Ava a Deacon. Rhannont ar ddiwedd 2006 ac ysgaront ym mis Hydref 2007. Mae Witherspoon yn piau cwmni cynhyrchu o'r enw Type A Films, ac mae'n hi'n weithredol mewn sefydliadau eiriolaeth plant a benywod.
Ffilmiau[golygu]
| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1991 | The Man in the Moon | Dani Trant | |
| Wildflower | Ellie Perkins | ||
| 1992 | Desperate Choices: To Save My Child | Cassie | |
| 1993 | A Far Off Place | Nonnie Parker | |
| Jack the Bear | Karen Morris | Young Artist Award – Best Youth Actress Co-star | |
| 1994 | S.F.W. | Wendy Pfister | |
| 1996 | Freeway | Vanessa | Cognac Festival du Film Policier Award – Best Actress |
| Fear | Nicole Walker | ||
| 1998 | Twilight | Mel Ames | |
| Overnight Delivery | Ivy Miller | ||
| Pleasantville | Jennifer/Mary Sue | ||
| 1999 | Cruel Intentions | Annette Hargrove | |
| Election | Tracy Flick | Golden Globe Nomineiddwyd – Actores Gorau Independent Spirit Award Nomineiddwyd – Actores Gorau National Society of Film Critics Award – Actores Gorau Online Film Critics Society Award – Actores Gorau |
|
| Best Laid Plans | Lissa | ||
| 2000 | Little Nicky | Holly | Cameo |
| American Psycho | Evelyn Williams | ||
| 2001 | The Trumpet of the Swan | Serena | Llais |
| Legally Blonde | Elle Woods | Golden Globe Nomineiddwyd - Actores Gorau MTV Movie Award – Perfformiad Gomediol Gorau |
|
| 2002 | The Importance of Being Earnest | Cecily Cardew | |
| Sweet Home Alabama | Melanie Carmichael | ||
| 2003 | Legally Blonde 2: Red, White and Blonde | Elle Woods | Cynhyrchydd gweithredol |
| 2004 | Vanity Fair | Becky Sharp | |
| 2005 | Walk the Line | June Carter Cash | Llais GwobrBAFTA, Gwobr Academi Actores Gorau, Gwobr Screen Actors Guild Actores gorau mewn ffilm, Gwobr Golden Globe Actores gorau mewn Ffilm Gerddorol neu Gomedi Gwobr BFCA, National Society of Film Critics Award – Actores Gorau Austin Film Critics Association Award, New York Film Critics Circle Award – Actores Gorau San Francisco Film Critics Circle Award, Online Film Critics Society Award – Actores Gorau |
| Just Like Heaven | Elizabeth Masterson | Perfformiwr cân | |
| 2007 | Rendition | Isabella El-Ibrahimi | |
| 2008 | Penelope | Annie | |
| Four Christmases | Kate | ||
| 2009 | Monsters vs. Aliens | Susan Murphy / Ginormica (llais) | |
| 2011 | The Bear and the Bow | Merida (llais) |