Julius ac Aaron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dau ferthyr Cristnogol cynnar Cymreig oedd y Seintiau Julius ac Aaron. Dywedir iddynt gael eu dienyddio yng Nghaerllion yn y flwyddyn 304, yn ystod y cyfnod o erlid Cristionogion dan yr ymerawdwr Diocletian. Roedd eu gŵyl yn draddodiadol ar 1 Gorffennaf.

Ceir cyfeiriad atynt gan Gildas yn ei De Excidio Britanniae:

Duw ... a oleuodd i ni lampau disglair y merthyron sanctaidd ... siaradaf am Sant Alban yn Verulamium, Aaron a Julius, dinasyddion Caerllion, a'r gweddill, o'r ddau ryw mewn amrywiol leoedd, a safodd yn gadarn ac uchelfrydig ym mrwydr Crist".

Cysegrwyd nifer o eglwysi iddynt yn ne Cymru. Dywed Gerallt Gymro fod dwy eglwys yng Nghaerllion wedi eu cysegru i Aaron a Julius yn ei gyfnod ef, ac mae'r eglwys Gatholig yno wedi ei chysegru iddynt heddiw. Ymhlith eglwysi eraill wedi ei cysegru iddynt mae eglwys Llanharan. Mae'n bosib i Aaron roi ei enw i Lanharan, ac mae'n debyg fod cymuned Sain Silian yng Nghasnewydd wedi ei henwi ar ôl Julius.