John Humphreys Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolhaig a chasglwr llyfrau a llawysgrifau oedd John Humphreys Davies (1871 - 1926). Cysylltir ei enw â chasgliad Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan J. H. Davies.

Ganed J. H. Davies yn y Cwrt Mawr ger Llangeitho, Ceredigion yn 1871. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn Gofrestrydd y coleg yn Aberystwyth yn 1905 a daeth yn brifathro yno yn 1919.

Roedd ei gyfeillion yn cynnwys Owen M. Edwards a T. E. Ellis.

Fel ysgolhaig gyda diddordeb eang yn llenyddiaeth a hanes Cymru, ymddiddorai yn llenyddiaeth a hanes y 18fed ganrif, ac yn enwedig yng ngwaith Morrisiaid Môn a Goronwy Owen a chyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys golygiadau o gasgliadau o lythyrau'r Morrisiaid a Goronwy Owen.

Casglodd lyfrgell arbennig o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn ei gartref yn y Cwrt Mawr. Mae'r casgliad, a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18fed ganrif. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Cafodd ei gyflwyno gan J. H. Davies yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith J. H. Davies[golygu]

  • Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901)
  • A Bibliography of Welsh Ballads (1909-11)
  • (gol.), The Morris Letters (2 gyfrol, 1907, 1909)
  • (gol.), The Letters of Goronwy Owen (1924)

Cofiant[golygu]

Ceir cofiant iddo gan T. I. Ellis (1963)