Llawysgrifau Cwrtmawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Casgliad sylweddol o lawysgrifau Cymraeg gwerthfawr a gasglwyd gan John Humphreys Davies o'r Cwrtmawr, ger Llangeitho, Ceredigion yw Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan J. H. Davies.

Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18fed ganrif. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd.

Plasdy hynafol ger Llangeitho yw'r Cwrtmawr (Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion T. I. Ellis amdano yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru).[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1952), tt. 61-2.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.