Johann Faust
Oddi ar Wicipedia
Meddyg a dewin Almaenig oedd Dr. Johannes Faust, ganed fel Georg Faust (c. 1480 - c. 1540.
Ganed ef yn Knittlingen, Helmstadt neu Roda. Teithiai o amgylch fel meddyg a sêr-ddewin. Roedd amheuon ei fod yn ymhel â dewiniaeth ddu. Credir iddo gael ei lofruddio.
Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, tyfodd chwedl Faust, ei fod wedi gwneud cytundeb â'r diafol. Defnyddiwyd y chwedl yn ddiweddarâch gan nifer o lenorion, yn cynnwys Johann Wolfgang von Goethe.