James o St George
Oddi ar Wicipedia
Pensaer milwrol Edward I, brenin Lloegr oedd Jacques de Saint-Georges d'Espéranche neu James o St George (tua 1230 - 1309). Roedd yn frodor o Savoy yn Ffrainc.
Yr oedd James yn cael ei ystyried fel pensaer milwrol pennaf ei gyfnod. Cynlluniodd sawl castell consentrig, er enghraifft Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Biwmares yng ngogledd Cymru. Roedd yn gwnstabl cyntaf Castell Harlech, hefyd.