Jacopone da Todi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brawd Ffransisgaidd o ardal Umbria yn yr Eidal yn y 13eg ganrif oedd Jacopone da Todi (Todi, 1228Collazzone, 1306). Fe'i cofir fel ysgolhaig a bardd a gyfansoddodd sawl laud (cerddi mawl) yn Eidaleg; mae'n debygol mai ef a gyfansoddodd y delyneg Ladin adnabyddus Stabat Mater hefyd. Roedd yn ddramodydd arloesol yn ogystal, a luniodd sawl drama ar destunau ysgrythurol.

Ganwyd Jacopone yn nhref fechan Todi yn nugiaeth Spoleto. Troes yn fynach Ffransisgaidd yn 1268 gan ddod yn Frawd llëyg yn 1278. Cafodd ei garcharu o 1298 hyd 1303 am gyfansoddi dychan yn erbyn y Pab Boniffas VIII.


Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.